Am tua saith y bore mae ein tren o Melbourne yn cyrraedd pen ei daith yn Hurstbridge ac yno i’n cwrdd gyda dwy wen fawr ar eu gwynebau roedd Sally ac Ali. Roedd yn braf gweld dau wyneb cyfeillgar a chyfarwydd wedi ein taith dros nos o Sydney. Siwrne fach wedyn o tua hanner awr drwy gefngwlad a elwir y ‘bush’ yn Awstralia i’n cartref am yr wythnos fach nesaf yn Dunmoochin. Dunmoochin oedd cartref yr arlunydd enwog Clifton Pugh ac sydd nawr yn cael ei ddefnyddio fel ymgiliad i arlunwyr (artist retreat). Mae wedi ei leoli mewn man digon anghysbell ond eto roedd nifer o gymdogion cyfagoes wedi eu ymwasgaru rhwng yr holl goedwigoedd bychain o ‘gum trees’ a chaeau melyn sych sy’n gartref i gannoedd os nad miloedd o gangarws yn ogystal â nifer fawr eraill o fywyd gwyllt Awstralia.
Fe wnaeth Y Tîm SAS i ni deimlo’n gartrefol reit a nine yn ffitio i fewn gyda’u bywyd bob dydd maent wedi creu dros eu harosiad yma yn y pedwar mis diwethaf. Cawsom y fraint o fynd a Sally i’w hysgol am ei diwrnod olaf cyn gwyliau’r haf a hefyd, wedi cinio, nôl i’r ysgol i weld gwasanaeth ola’r flwyddyn ble roedd y plant yn cael ei gwobrwyo am unrhyw gampau cyflawnwyd dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf ac i wrando ar gân cyflwynwyd gan y plant hyn a oedd yn gadael i fynd i’r ysgol uwchradd yn y flwyddyn newydd. Roedd Sally wrth ei bodd wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd yn y cyfnod byr buodd hi yno ac wedi mwynhau ei hysgol dros dro yn fawr iawn.
Yn anffodus fe wnaeth ein hymweliad â Dunmoochin gyfuno a chyfnod o dywydd digon Cymreig, sef gwynt a glaw (llawer iawn) ac oerfel … wel, oerfel i safon Awstralia hynny yw. Ychydig iawn o gyfnodau sych gawsom yn ystod ein harosiad a llai byth gyda’r haul yn gwenu arnom. A dyna fel roedd hi, ar brynhawn cyntaf gwyliau haf Sally, a hithau bron marw am fynd a ni i nofio yn y pwll sydd ger llaw ein cartref dros dro. Ond nid jyst gwynt, glaw ac oerfel roedd gan y tywydd yw gynnig ond tarannau hefyd. Mi’r oedd hi’n tarannu drwy’r pnawn a Sally yn ysu i fynd i’r pwll … a finne hefyd … dim! A gyda Sally yn fy holi tro ar ôl tro i ni fynd i’r pwll dim ond Ali oedd yno i’m hachub yn rhoi stop arni gan ei bod yn tarannu. Yn anffodus i mi, ond er boddhad mawr i Sally fe arbedodd y tarannau os nad y gwynt ar glaw tuag at ddiwedd y pnawn ac o dan arweiniad pendant Ali cafodd Sally caniatad i fynd i’r pwll ond iddi ddod allan yn syth os fyddai’r tarannau yn dychwelyd. Off a hi yn sionc a gwen i’r pwll … ac yn fy llusgo i ar ei hôl. Diolch i’r nefoedd roedd hi’n gynhesach yn y dwr na tu allan ac roedd modd i mi ymdopi â gorchmynion Sally am ba gemau roeddem i warae. Nid oedd dim diwedd i’w dychymyg o wahanol gemau gellir chwarae o fewn pwll nofio gan gynnwys nofio dan dwr rhwng fy nghoesau, rasio nôl am mlaen, llithro lawr y sleid fawr a chwarae siarcod. Rhaid dweud cefais hwyl hefyd a siom oedd i’r ddau ohonom pan glywsom daran anferth uwch ein pennau a rhaid oedd i’r ddau ohonom ddianc nôl i’r ty. Ond roedd Sally yn hapus, roedd wedi cael ei ffordd ac am i mi fod mor ddewr o dan amodau diflas fe wnaeth hi creu tystysgrif i mi am fy newrder. Sylwer ni chafodd Nia dystysgrif am iddi wrthod mentro i’r pwll!
Thursday, 17 January 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
Wel, well, my fab friends!
I can't wait to follow in your footsteps! In a fortnight, I start my TEFL, then watch out world! How inspiring your blog is - how fabulous it is! N and I think and talk of you often.
Sending sooooooo much love,
Myf.
XXXX
wedi siarad a mam ok
Bore da/Prynhawn da/Noswaith dda!!
Shwt y'ch chi'ch dau?
Gobeithio eich bod yn joio-wi'n gwbod bo chi! Roeddwn wedi ystyried dod allan i NZ heddiw i wylio angladd Sir Edmund Hillary ond gweld e'n dipyn o ffordd i deithio-bendith Duw ar ei lwch.
Popeth yn iawn yma Marc-dim byd ysgytwol wedi digwydd ar y prosiect!External Evaluation ar y ffordd.
Teithiau Clwb Cerdded wedi dechrau unwiath eto. Mc Conochie wedi prynu trowsus glaw o'r diwedd-cofia ma' ise fe ma yn Nghymru-caeau Blaen Dolau dan dwr.
Catrin a Frances yn iawn-rwy'n cynllunio expedition i Rwsia ar gyfer Gorffennaf ar y foment.
Gweilch a'r Gleision yn yr 8 olaf.
Haul heddi o'r diwedd-gobeithio fod Mc Conochie wedi cadw'i 'receipt' !!!!! Heatwave o nawr tan mis Medi sdim dowt.
Fe dria i ddanfon neges arall cyn bo hir.
Daf
Sorry for off topic, but 2012 is close, is this really matter?
Post a Comment