Sunday, 13 January 2008

Beth arall welom yn Sydney?

Ar ol diwrnod arall yn crwydro ar hyd Sydney, hanner yn archwilio'r ddinas a hanner arall yn trio cael y camera wedi ei drwshio, fe'r aethom ychydig yn bellach allan o'r canol. Yn gyntaf aethom allan a'r fferi i Manly. Lle bach ar lan mor yw Manly a fyddai'n hyfryd iawn ond fod y tywydd wedi troi yn ein herbyn. Ni wnaethom adael y glaw i'n stopio rhag mwynhau'r lle a cherdded ar hyd y traeth a oedd yn frysur reit gyda syrffwyr a phobl yn chwarae 'beach volleyball' ymysg eraill. Pan arbedodd y glaw am ychydig cawsom bobi bysgodyn a sglodion a phaned o de ac eistedd ar y prom i'w bwyta - neis iawn. Ond pan ddaeth y glaw eto nol ar y fferi'r aethom am Sydney ac yna jwmpio ar fws, y Sydney Explorer, i'n tywys ogwmpas y ddinas ac yn adrodd ychydig o'i hanes wrth fynd heibio'r uchafbwyntiau roedd gan Sydney yw gynnig. Trip o ddwy awr ydoedd tra roedd y nefoedd yn agor allan ar bawb tu fas y bws.

Yn ogystal a'r Sydney Exploer sy'n canolbwyntio ar brif atyniadau o fewn ganol y ddinas, mae yna'r Bondi Explorer hefyd. Bws yw hwn sy'n eich tywys ogwmpas prif draethau Sydney ac sydd hefyd yn adrodd hanes y gwahanol mannau ymwelsom a. Rhaid oedd aros ym Mondi a chael profi'r traeth byd enwog yma. Yn anffodus nid oedd y tywydd ar ein hochr heddiw to. Tra roedd y tywydd yn braf i ddechrau roedd yr awel yn gryf reit sydd ddim yn beth da os am wario amser ar draeth, er fod y tonnau, na sori, y syrf yn dda iawn. Ond wedi ychydig o nofio a rhoi fyny a'r 'sand storm' ar y traeth fe fygythiodd hi ddechrau bwrw eto a phenderfynom ail afael ar y Bondi Explorer er mwyn cwbwlhau'r trip.

Ar ein diwrnod olaf yn Sydney fe ddalion ni fyny gyda Elfyn a Siwan. Dau arall o Aberystwyth sydd wedi bod yn trafaelu am bron i ddwy flynedd bellach! Cawsom yr amser gorau yn dal fyny a rhannu storiau ac o safbwynt Nia a finne cael pigo lan llawer o dips ar drafaelu. Roedd hi'n hyfryd iawn cael sgwrsio gyda phobl eraill yng Ngymraeg - er mai nid nhw oedd y Cymry Cymraeg cyntaf i ni gwrdd a yn Sydney - dawsom ar ddraws dau Gymro o Fangor wrth i ni groesi'r bont ar ein diwrnod cyntaf. Aethom ar y fferi eto, y tro yma i East Balmain a chael cinio bach neis yno. Yna nol i Sydney ac ymweld a thafarn Almaeneg yn ardal y Rocks ble roedd y cwrw braf yn dod mewn gwydrau tal maen. Yn anffodus fe hedfanodd y diwrnod, dyna beth sy'n digwydd pan da chi'n cael amser da ond mi'r ydym wedi cytuno i gwrdd lan eto yn Seland Newydd mewn ychydig fisoedd - rydym yn edrych ymlaen i hynny yn barod.

No comments: