Sunday, 20 January 2008

Cangarws a Kookaburras

Roedd ein cyfnod yn Dunmoochin yn eitha difyr oherwydd yr holl wlypter cawsom. Roedd yn rhyfedd iawn gwrando ar y pobl lleol yn croesawi’r glaw gyda gwen ar eu gywnebau yn dweud pa mor hyfryd oedd tra adre byddai pawb â wep ar eu gwynebau yn cwyno ei bod yn bwrw eto. Ond er gwaetha’r tywydd cawsom, y mae Dunmoochin yn le hyfryd dros ben. Mae yno ddigonedd o fywyd gwyllt, unigryw Awstralia i’w gael os yr oeddech yn fodlon codi’n ddigon cynnar neu â digon o amynedd i fynd i wylio amdano yn nhywyllwch y nos. Ac mewn Ali roedd gyda ni’r person gorau i’n tywys ogwmpas y bwsh, i bigo allan y creaduriaid rhyfedd yma ac i esbonio i ni beth oeddent. Gwelsom yr holl gangarws allan yn y caeau neu yng nghanol y bwsh ond rhaid oedd codi’n gynnar i’w gweld gan ei bod yn tueddi diflannu o’r golwg yn ystod gwres y dydd i fynd i orweddan a chysgu. Mae gyda nhw’r syniad cywir. Cangarws yw ffefrynnau Nia a finne, maent yn edrych llawn cymeriad ac maent yn ein swyno wrth i ni wylio nhw’n adlamu ar hyd y lle. Bydden ni’n gweld dwsine ohonynt gyda’u gilydd ar y tro ac ar un achlysur fe wnaethom gyfri dros hanner cant ohonynt gyda’u gilydd.

Yn ogystal ar holl gangarws fe welsom gwahanol possums gyda’r nos. Ali oedd y possum ‘hunter’ yn mynd allan gyda’i ‘torch’ i’w chilio yn y coed a phan byddai’n dod ar eu traws byddech chi’n gweld cynffon flewog a dwy lygad mawr yn syllu nôl arnoch o’r brigau ac yn siwr o feddwl beth yw’r creaduriaid rhyfedd yna islaw. Cawsom weld hefyd wombat ac ar un achlysur walabi du. Maent yn eitha prin mae’n debyg ond o ymateb Alison wrth iddi weld un byddech chi’n meddwl mae dyma’r walabi du olaf yn Awstralia. Os oedd y sgrech “it’s a black wallaby” yn ddigon i godi ofn arnoch roedd y ffaith mai Ali oedd yn gyrru’r car ar hyd lon cul ac wedi gadael fynd o’r olwyn i bwyntio at y creadur yn codi fwy fyth o ofn. Does dim angen dweud wedi clywed sgrech Ali ni wnaeth y walabi bach du sefyll ogwmpas yn rhy hir ac roedd wedi diflannu i’r bwsh mor gyflym ac y’i gwelsom. Ond mi’r oedd Ali yn hapus dros ben gan er iddi chwilio a chwilio ers misoedd nid oedd wedi dod ar draws un cyn hynny.

Os mae cangarws yw ein hoff anifieiliaid, yna Kookaburras yw ein hoff adar. Adar bach eitha plwmp ydynt heb blu llachar ac heb gân swynol ond mae ei ysgrechian a’u golwg yn llawn cymeriad. Roedd Ali wedi eu hyfforddi i ddod at y ty drwy gopio eu sgrech a’u temtio â darnau o gaws. Byddai at hanner dwsin ohonynt yn dod i’n cwrdd ac yn glanio ar wal neu goeden isel wrth ein hymyl i ddisgwyl am eu ‘treat’ y bydden nhw’n derbyn o’n llaw. Ar un adeg bydden ni’n sefyll i ffwrdd o’r wal ac yn dal y darn caws uwchben fy mhen ac yna byddai’r adar yn hefan i lawr o’r coed ac yn pigo’r darn caws fyny cyn hedfan syth nôl lan. Wedi’r caws orffen fe dries i anwesu un ohonynt a oedd wrth fy ymyl. Ac fel roeddwn yn symud fy mys yn agosach fe gydiodd yr aderyn afael ynddo a dechrau wreslo gydag ef, roedd yn siwr o feddwl mae darn arall o gaws ydoedd. Mi’r oedd yn brofiad gwych cael bod mor agos i’r adar arbennig yma.

Mi’r oedd Ali yn hanner jocian dechrau tripiau natur ogwmpas Dunmoochin ond bydden i yn ei hargymell ac yn ei chymeradwyo hefyd.

1 comment:

Stumpy said...

Nia will lose her phenominal (or is it nominal) cryptic crossword skills if she doesn't practice. So here are some to keep her in tune:
1. Rice dish if pal is sick (5).
2. Biting when tossing caber, I see (7).
3. Conceited dandy taps a hairdresser (9).
4. Rule for every nudist in court procedure (7).
5. A goat to fool around (3)