Monday, 28 January 2008

Cerdded i’r Flwyddyn Newydd

Fel dwi wedi crybwyll yn barod rhaid oedd codi o’n gwelau yn gynnar iawn tra yn aros gyda Eifion a rhoi ein sgidiau cerdded arno i fynd am ein wâc boreuol. Ond chwarae teg iddo fe’r aeth Eifion a ni i lefydd hyfryd i gerdded fel Parc Cenedlaethol Mynyddoedd y Dandenong sydd wedi ei leoli ychydig tu allan i Melbourne. Gan ein bod wedi codi mor fore roedd hi’n hyfryd yno. Nid oedd gwres yr haul wedi treiddio drwy coed y bwsh ac felly roedd hi’n cwl neis a hefyd, doedd dim pryfed yno. Dyma fy unig gwyn am Melbourne, mae llawer gormod o bryfed yno. Mi’r oedd yn braf cael cerdded drwy’r bwsh a gwylio’r holl amrywiaeth o adar a hefyd, coeliwch neu beidio, gwelsom dim un ond dau walabi du. Dyma’r creaduriaid roedd Ali wedi cynhyrfu gymaint wrth weld un yn Dunmoochin. Cefais fidio clip da o un ohonynt ac fe gei di copi Ali pan ddof adre.

Wrth ddychwelyd ar ôl ein whâc fe alwon fewn ar y cymdogion. Nid eich cymdogion arferol ond Y cymdogion, neu i fod yn fwy manwl galwon yn Ramsey Street ble mae’r rhaglen teledu Neighbours wedi ei leoli. Ond nid Ramsey Street yw’r enw go iawn, Pin Oak Street mae’n cael ei alw. Yn anffodus nid oedd ffilmio yn digwydd tra roeddwn yno a felly’r unig berson cawsom gwrdd â oedd y gwarchodwr diogelwch – ond mi’r oedd o’n foi iawn gan iddo adnabod ein acen Gymraeg yn syth. Felly, gan nad oedd unrhyw actorion i ni dynnu eu lluniau rhaid oedd i Nia a finne cael ein lluniau wedi’u tynnu tu allan i bob cartref ar y rhaglen – pob un o’r chwech ty. Sori Jan, does gen i llofnod neb o’r rhaglen i ti ond fe gei di lun o Nia a fi o flaen y tai ac fe rho i llofnod fy hun arno fe os ti ishe.

Ar ddiwrnod ola’r flwyddyn, codom yn fore eto i fynd am dro bach arall. Y tro hyn cerddom ar hyd yr afon Yarra o fewn parc mawr yng nghanol y ddinas. Mi’r oedd yn hafan braf ac anodd oedd credu fod yna ddinas fawr reit wrth ein hymyl. Ond mi’r oedd gormod o bryfed yno y tro hwn ac mi’r oedd hi’n boeth er pa mor fore yr oedd hi. Yn wir roedd y diwrnod cyfan yn boeth iawn gyda’r tymheredd uchaf yn cyrraedd bron 43 gradd. Roedd yn teimlo fel petai ni’n gwario diwrnod mewn ffwrn, a ffwrn ‘fan assisted’ ar hynny gan fod yr awel go gryf roedd gyda ni mor boeth hefyd a felly dim ond chwysu gwnaethom drwy’r dydd. Yn y pnawn roedd Nia wedi gwneud apwyntiad i dorri ei gwallt ac oherwydd y gwres roedd gwell gen i gwario fy amser yn y siop gwallt gyda’r ‘aircondition’ na mynd am dro i rywle arall. Yn wir penderfynais cael cropiad hefyd, roeddwn yn barod i drio rhywbeth i deimlo’n cwlach.

Gyda’r hwyr roeddem wedi derbyn gwahoddiad i fynd i barti Nos Calan gan Bernie a Steve, ffrindiau Eifion. Roedd yno llond ty o fobl ac mwynheuom ddod i nabod sawl un o ffrindiau Eifion. Roedd y cwrw’n oer, y bwyd yn flasus a’r cwmni’n dda. Ar hanner nos aethom i dop y stryd i edrych lawr dros y ddinas a gwylio’r holl dân gwyllt. Cawsom amser da er nad oedd y gwres wedi gostwng ryw lawer. Erbyn i ni gyrraedd adref am ychydig cyn 4 y bore roedd y tymheredd o hyd yn 32 gradd. Diolch byth am effaith y cwrw neu dwi’n siwr bydde ni heb gysgu’r noswaith hynny.

No comments: