Ar ôl yr holl bartio a mwynhau dros y Dolig roedd angen ychydig o orffwys arnom a ble gwell i fynd ond i lawr i Torquay … Torquay sydd i lawr yr afordir o Melbourne dwi’n ei feddwl. Yma mae tref fach ar lan y môr, ble mae digonedd o syrff i’w cael a dwsine o gaffis bach ac sy’n gartref i gwmniau bydenwog Quicksilver a Rip Curl. Yma hefyd mae Geraint yn byw, y brawd hynnaf o’r tri cefnder sy’n byw pen yma o’r byd. A braf oedd cael dod i lawr yma i’w gwrdd ac i aros rhai dyddiau gyda’g ef. Mae Geraint yn syrffiwr ac iddo ef mae mynd allan i’r swyddfa yn golygu mynd lawr i’r môr ar ei fwrdd syrffio. Ac mae yno draethau da i’w cael yn y rhan yma o’r byd. Yn anffodus, gan ei bod mor boeth, rhaid oedd i Nia a finne aros tan hwyr y prynhawn cyn mentro i’r traeth. Ond wedyn bydden yn ymlacio yno ac yn aros i wylio’r haul yn machlyd.
Yn Nhorquay hefyd mae’r Great Ocean Road yn dechrau (neu yn gorffen – yn dibynnu ym mha gyfeiriad rydych yn trafaelu!). Dyma’r ffordd sy’n rhedeg ar hyd yr arfordir am bron i 300km gyda’r golygeydd mwyaf arbennig. Fe’r aeth Geraint a ni am drip ar ei hyd, nid yr holl ffordd ond digon i ni werthfawrogi’r tag sydd wedi ei rhoi iddo o fod yn “one of the world’s great scenic coastline drives”. Wrth fynd rownd pob cornel roedd golygfa hardd arall yn agor lan o’n blaenau. Naill a’i bae hyfryd â môr glas a thywod melyn-wyn neu chloglwynnu serth yn syrthio ddramatig i’r môr a thonnau’n torri wrth eu sylfeini. Mae’n debyg fod nifer o hysbysebion ceir yn cael ei ffilmio ar hyd y ffordd yma a gallwch ddeall pam gyda’r ffordd ei hun yn cofleidio dynn i’r arfordir. Wedi’r holl golygfeydd, fe’r aeth Geraint a ni am drip hollol wahanol. Fe’r aethom i ‘offroadio’ yng nghanol y bwsh yn ei 4x4 newydd sbon!!! Ffantastig. Roeddem yn bownsio ogwmpas tu fewn y cerbyd wrth i ddringo a gyrru at hyd trac serth a chlogyrnaidd. Yna, yng nghanol y bwsh, arhosom am bach o bicnic a berwi dwr am baned. Ni welsom llawer o fywyd gwyllt, dim hyd yn oed Koalas yr oedd Geraint yn eitha hyderus y byddwn yn dod ar eu traws ond fe ddaeth Nia ar ddraws Scorpian gyda’i gynffon yn chwifio ffyrnig yn yr awyr ryw fodfeddi o’i bys mawr. Does dim rhaid i fi ddweud na wnaeth hi aros yn rhy hir yn yr unfan tra fu Geraint a finne yn ei archwilio cyn gadael llonydd iddo.
Tra yn Torquay caswom farbeciw mawr gyda Geraint yn gwahodd ei ffrindiau i ymuno a ni, sef Ken a Jan, a Marie a Trsystan. Cawsom noswaith hyfryd yn mwynhau y corgimwch mwya i ni ddod ar eu traws a blasu’r cwrw lleol. Hwyr roeddem i’n gwelau a felly methais ar y cyfle i weld Geraint yn syrffio y bore canlynol gan iddo godi mor fore (am bump o’r gloch!) er mwyn mynd i ddal y tonnau gorau. Bydd rhaid i ni felly fynd yn ôl i Torquay eto ryw ddydd er mwyn gweld Geraint yn hwylio’r ’30 foot waves’ ar ei fwrdd syrffio gan i’n harosiad yn Torquay orffen yn llawer rhy fuan. Roedd yn braf i dy gwrdd Geraint a diolch am y croeso cynnes.
Saturday, 26 January 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment