Dwi’n falch i adrodd fy mod wedi cadw at fy adduned ar gyfer y flwyddyn newydd eleni. Ar ôl yr holl codi’n gynnar rydym wedi ei wneud ers cyrraedd Melbourne roeddwn wedi addo i fi fy hun y byddwn yn cael gorffwys i fewn tan yn hwyr ar Ddydd Calan. Ac fe wnes i, hyd at hanner wedi dau yn y pnawn i fod yn gywir. Ar yr un adeg fe ddigwyddodd rhywbeth rhyfeddol iawn o fewn hanner awr i mi godi. Yn ddiweddar, gan ei bod mor boeth yn Melbourne, roedd y ddau ohonom wedi dechrau dilyn tymheredd cyfredol Melbourne ar y we ac wrth i mi godi roedd tymheredd y ddinas yn dechrau gostwng yn sydyn iawn. Am hanner wedi dau roedd hi’n bron yn 42 gradd ac erbyn tri o’r gloch roedd y tymheredd wedi gostwng i 27 gradd! Mae’n debyg fod y ffenomen yma yn digwydd yn reit amal yn Melbourne pan fydd cyfeiriad y gwynt yn newid o gyfeiriad y gogledd i dod o’r de ac o gyfeiriad y môr. Ta beth oedd y rheswm roeddwn yn falch iawn o’r tymheredd llawer mwy iachus yma. Cymryd pethau yn ddigon hamddenol gwnaethom ac ar ôl brecwast!! Aethom am dro … yn y car am newid fach. Fe’r aeth Eifion a ni yn gyntaf ogwmpas trac ‘Formula One’ sydd wedi ei leoli rownd llun mewn parc yn y ddinas. Yn anffodus roedd gormod o fariau ar hyd y trac yn ein rhwystro rhag mynd yn rhy gyflym - ‘spoilsports’! Wedi hynny, i lawr yr afordir am ‘run’ fach neis a pasio ganoedd o dai byddai’n gwerthu am brisiau yn y miliynau.
Brysur iawn buom tra gyda Eifion. Fe aeth a ni i’r Healesville Animal Sanctuary i ni cael gweld yr holl amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yn Awstralia. Ymhlith yr holl anifeiliaid eraill cawsom weld y Tasmanian Devil, Echidnas, Kangarws, Wallabies, Platypus, Dingos, Emus, Bilbies, Koalas, amrywiaeth o frogaid, lizards, adar a nadroedd gan gynnwys y rhai mwyaf gwenwynus yn y byd heb anghofio pen-ol un Wombat (roeddent i gyd yn cysgu’n braf pan alwon ni). Cafodd Eifion enw newydd ar ôl y diwrnod hwnw, sef Searching Bear. Bob tro roedd Nia a finne yn symud ymlaen i’r gorlan nesaf i edrych ar anifail arall roedd Eifion yno yn barod wedi chwilio’r creaduriaid yng nghanol yr holl dyfiant ac yn eu pwyntio nhw allan i ni.
Gyda’r hwyr y diwrnod hynny fe’r aethom i farchnad nos yn y ddinas ble roedd stondinau yn gwerthu’r popeth gan gynnwys bwyd a chwrw ac roedd bandiau yn chwarae a miloedd o fobl ar hyd y lle. Cawsom swper yno ac ar ôl bod yn syllu ar yr anifeiliaid yn gynharach y diwrnod hynny ac yn www-an ac aaa-an drostynt doedd dim amheuaeth gennyf i’w blasu nawr. Dewisais felly y Bushman’s Choice a chael byrgyr kangarw, sosej o gig emu a stêc water buffalo. Braf iawn, meant yn blasu cystal ac meant yn edrych. Dewisodd Nia, a oedd ddim eisiau trio y kangarw, byrgyr crocodeil yn lle. Roedd hwnw’n neis hefyd.
Doedd y codi’n gynnar i fynd am wâc heb ddiwedd gyda’r flwyddyn newydd. Wedi un bore o orffwys i fewn bant a ni eto. Y tro hwn aethom ogwmpas gardd fotaneg Melbourne yng nghanol y ddinas. Lle braf arall. Fel pob wâc arall roedd cwmni gyda ni ac mi’r oeddem yn mwynhau cerdded gyda Bernie, Steve a Laura heb anghofio Eifion wrth gwrs. Wrth ymyl y gerddi mae cofeb ANZAC. Roedd yn le diddorol iawn a chawsom sgwrs golew hefyd gyda’r gwarchodwyr a ddysgodd rhagor am hanes y cofeb i ni. Roeddent yn ei ffurfwisg swyddogol â plu ostrich yn eu hetiau a gynnau (go iawn) ar eu cluniau.
Tra yn y ddinas cawsom rhywfaint o ddiwylliant. Ymwelsom â’r Oriel Cenedlaethol, yr Amgueddfa Mewnfudiad sy’n rhoi hanes ar mewnfudiad Awstralia ac aethom ogwmpas Mebourne ar hen dramiau’r ddinas yn dysgu am ychydig o’i hanes. Hefyd, cawsom ychydig o ymarfer corff, a oedd mor angenrheidiol arnaf, wrth ymweld a baddon y ddinas. Mi’r oedd yn le hyfryd iawn gyda chyfleutesrau modern tu fewn i hen adeilad hyfryd a adeiladwyd yn oes Fictoria. Roedd yna drefn ar bobeth gyda pawb yn nofio mewn un o bedwar lôn – un lôn ar gyfer y nofwyr cyflym, un i’r canolraidd, un i’r rhai araf ac yna un lôn ar gyfer y rhai oedd ond am ddod am chlonc a splash. Trefnus iawn – pam na allwn ni gael hyn adre’!?!?
Ar ein noson olaf ond un fe’r aeth Eifion a ni a’u deulu allan am bryd o fwyd i Ty Bwyta Stêc. Gan yr oeddem bellach wedi cael blas ar y ‘bushtucker’ cefais tamaid o bopeth sef stêc kangarw, stêc emu, stêc camel a stêc water buffalo. Roedd yn flasus iawn a doedd dim un yn blasu fel cyw iâr. Fe cafodd Nia yr un fath hefyd, roedd wedi newid ei chân am fwyta kangarw erbyn hyn.
Ar ein diwrnod olaf cyn symud ymlaen rhaid oedd mynd am un wâc arall (wedes i ein bod wedi cerdded tipyn). Wâc y tro yma o dy Bernie a Steve ar hyd yr afon Yarra eto. Yn dilyn, cawsom un ymweliad olaf â’r ddinas a hefyd nofiad fach arall yn y baddon. Gyda’r hwyr aethom allan am bryd o fwyd ffarwelio gyda’n cyd-gerddwyr, Bernie, Steve a Laura, yn y ddinas ar hyd Lygon Street. Cerddom i fyny a lawr y stryd gyda perchennog pob bwyty yn gwneud eu gorau i’n temptio i fewn i’w bwyty hwy gyda un yn trio curo’r llall gyda addewid gwell am hyn a llall. Yn y diwedd fe wnaethom benderfynnu ar fwyty yr hen foi Eidalaidd yma a wnaeth addo dim i ni ond y bwyd gorau a braf iawn ydoedd. Croesi’r ffordd wedyn i un o nifer o Gelatis sydd yw cael yn y ddinas am hufen iâ cyn mynd am goffi bach mewn caffi neu yn fy achos i, milkshake fawr â hufen iâ ynddi gan ei bod o hyd yn boeth er ei bod wedi troi ganol nos.
Monday, 28 January 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Great post, been after something like that??
Post a Comment