Sunday, 13 January 2008

Dyma ni ... yn Sydney!

Cyrrhaeddom Awstralia a dinas Sydney yn gynnar iawn fel roedd y dydd yn gwawrio. Ar ol gweithio allan ffordd o fynd o'r maes awyr i'r ddinas (mae'r awdurdodau yn eu doethineb wedi penderfynnu'n ddiweddar gohirio bysiau rhag codi pobl fyny o'r maes awyr fel yr oeddem wedi golygu trafaelu) fe ddaliom y tren a wrth lwc roedd yna orsaf tren ar gael jyst rownd y gornel o'r hostel roeddem am aros ynddi. Gan ein bod oriau yn rhy gynnar i medru bwcio i fewn, fe syrthiom i gysgu a'r un o soffeydd mawr yn lolfa'r hostel i aros am ein ystafell ddod yn rhydd.

Mas a ni yn y prynhawn i ddarganfod y ddinas ond nid oeddem pum munud allan o'r hostel pan wrth croesi'r ffordd fe afaelodd rhywun ym mraich Nia a oedd yn croesi y ffordd arall gan ddweud helo. Wedi i ni groesi i'r ochr arall a throi rownd gwelsom mai dwy Wyddeles, Elaine a Becky, gwnaethom gwrdd a yn gyntaf yn Chiang Mai ryw fis fach yn gynharach, roedd wedi ein nabod. Rhaid oedd wedyn croesi yn ol a chael sgwrs a dal lan ar hanes ein gilydd. Rhyfedd iawn - dim ond wedi bod yn cerdded yn y ddinas yn lythrennol am bum munud ac roeddem wedi cwrdd a dau wyneb cyfarwydd yn barod. Wrth gwrs, gwneud trefniadau wedyn ni er mwyn dal fyny am ddiod neu dau nes ymlaen.

Roedd Sydney yn edrych yn ysblennydd reit wrth gerdded trwyddi, gyda'r holl adeiladau tal newydd yn disgleirio yn yr haul ym mysg rhai hyn a chrand o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cerdded i lawr i harbwr Darling sydd wedi ei holl drawsnewid yn y blynyddoedd diwethaf gyda'i gwahanol atyniadau a'r holl tai bwyta modern yn llawn dop gyda Sydneysiders. Ymlaen a ni drwy'r ddinas ac yn sydyn reit rhwng ddau 'skyscraper' cawsom ein golwg gyntaf o pont harbwr Sydney. Yn syth fe wnaeth y bont argraff arnom cyn i ni medru ei weld yn iawn. Ymlaen ychydig eto ac yna cawsom ei weld yn ei holl ogoniant heb ddim i rwystro'r olygfa. Golygfa ffantastig reit. A'r unig beth oedd i sbwilio'r cwbwl oedd i'n camera (newydd!) benderfynnu ddim gweithio'n bellach jyst fel roeddem am dynnu dwsine o luniau o'r bont. Ta beth, gyferbyn a'r bont roedd y Ty Opera Sydney. Icon arall ar ein rhestr o bethau i'w weld. Yn anffodus, er pa mor hyfryd yw, dwi'n credu i'r bont ein syfrdanu gymaint fel pan welom ni'r Ty Opera am y tro cyntaf cawsom y teimlad bach lleiaf o siom. Doedd ganddo ddim cweit gymaint o'r wow ffactor. I fod yn deg a'r Ty Opera, ni chawsom ei weld o'r ongl orau sydd allan ar y dwr o flaen yr adeilad ac nid o'r man ble roeddem yn sefyll. Er hynny, fe mwynhasom gerddom ogwmpas y Ty Opera a hefyd ar ddraws y bont ac mi'r oedd yn ddiwrnod hyfryd, ble roedd yr haul yn gwennu arnom heb fod yn llethol ac yn wir roedd hi'n deimlad ffresh neis wedi'r tywydd profom yn ne ddwyrain Asia. Cerddom nol i'r Hostel drwy'r gardd fotaneg a oedd yn hyfryd iawn a gweld mai nid adar oedd yn gwenud yr holl synnau a sgrechfeydd i fyny ym mrigau'r coed ond yn hytrach ystlumod oedd yno yn dod i fyw wedi eu cwsg dydd - a maint golew arnynt hefyd.

No comments: