Thursday, 24 January 2008

Dyna i chi anrheg Nadolig … Marc a Nia yn glanio ar eich stepen drws

Fe glanio ni ar Eifion, fy nghefnder … ‘once removed’, ar noswyl Nadolig – dwi’n siwr iddo erioed dderbyn cystal anrheg! Roedd Eifion, chwarae teg iddo, wedi cytuno i ddod i fewn i’r ddinas i’n cwrdd jyst cyn y gyngerdd Carols by Candlelight er mwyn mynd a’n bagiau trafaelu oddi arnom fel nad oedd angen i ni eu halio i’r gyngerdd. A dyma’r tro cyntaf i ni gwrdd ag ef. Mi’r oedd Ali wedi bod yn tynnu fy nghoes cyn y ‘drop off’, yn holi os yr oeddem yn hapus rhoi ein holl meddiant yng ngofal dyn roeddem erioed wedi ei gwrdd o’r blaen a nad oedd syniad gyda ni beth roedd e’n edrych fel na ble roedd e’n byw. Ond wrth i ni gerdded i’r man cwrdd, gyda cwestiwn drigionus Ali yn chwarae yn dawel ar fy meddwl, death gwên fach i’n gwyneb wrth i mi weld Eifion yn dod i’n cwrdd. Gwyddwn mai Eifion ydoedd gan ei fod yn edrych jyst fel Wncwl Alun, ei dad. Wedi’r gyngerdd a chyrraedd ein cartref newydd am y bythefnos nesaf cawsom groeso cynnes a fyddai’n cael ei ail adrodd dro ar ôl tro am y cyfnod ein harosiad. Cawsom baned o de a mins peis a tipyn o chlonc wrth i ni ddod i nabod ein gilydd.

Codom yn fore dydd Dolig, rhywbeth arall fyddai’n cael ei ail adrodd yn reit aml tra’n aros gyda Eifion, a bant a ni i gwrdd a chael brecwast gyda’r Melbourne Breeses, sef Lynne - gwraig Eifion, Rhiannon - merch Eifion a’i gwr Jamie a’u mab Ioan Alun a hefyd Emlyn - y mab. Wedi mwynhau’r brecwast cawsom ymuno â’r traddodiad o agor anrhegion a chael syrpreis hyfryd wrth weld cwpwl o bethau a’n henwau arno. Derbyniom DVD o’r Melbourne Breeses o’r ffilm ‘The Castles’, comedi/drama am deulu nodweddiadol o Awstralia … dim! Mae’n ffilm mae pob person o Awstralia yn ei fwynhau ond sydd hefyd yn gwneud iddynt i ‘cringe’. Rhywbeth tebyg i’r The Royle Family sydd gan y Saeson. Hefyd, mi’r oedd yna becyn o’r Wellington Breeses, dau lyfyr hyfryd am bethau i wneud a gweld tra yn Seland Newydd. Diolch i bawb am ei caredigrwydd a’u haelioni.

Ar ôl brecwast fe’r aeth Eifion a ni am dro ar hyd draethau Melbourne. Fe gerddom o draeth Brighton i fyny at draeth St Kilda a’r holl ffordd nôl. Fe gerddom tua 15km i gyd a dyna’r mwya o ymarfer corff dwi erioed wedi ei wneud ar ddydd Dolig ond mi’r oedd yn wâc hyfryd. Roedd yr haul yn gwenu ac awel hyfryd yn dod o’r môr, roedd y traethau yn felyn-gwyn a’r môr a’r awyr yn cystadlu’n frwd i cael bod y mwyaf glas. Fel gwobr o’n ymdrech i gerdded i St Kilda cawsom cip olwg o’r Fairy Pengwin yn ei gartref yn y creigiau ger y môr. Dyma’r pengwin lleiaf yn y byd ac meant yn byw yn Awstralia credwch neu beidio. Wedi dychwelyd adref roedd gan Eifion ginio bach special yn ein disgwyl – wystrys a cimwch a chwrw oer Awstralia. Doedd Nia na finne erioed wedi blasu wystrys na chimwch o’r blaen ac roedd y ddau ohonom yn bryderus braidd wrth syllu ar y wystrys yma heb eu goginio a dal yn eu cregyn. Heb os, roedd y cimwch yn fendigedig a rhiad dweud mi’r oedd bwyta’r wystrys yn brofiad hollol unigryw.

Bydde bron unrhyw un yn fodlon derbyn wystrys a chimwch fel ei cinio Nadolig dwi’n siwr ond megis tamaid i aros y pryd mawr ydoedd y bwyd môr yma. Hwyr y pnawn, nôl a ni i gartref Rhiannon a Jamie am beth droeodd allan yn wledd fawr bendigedig. Ac nid oedd hyn yn gamp ddiffaith ar rhan Rhiannon a Jamies, wedi’r cyfan roeddent yn coginio ar gyfer 14 ohonom gan gynnwys Audrey (chwaer Lynne) a’i gwr Brian, mam a tad Jamie – Sue a Tim a’i frawd David a’i deulu ef. Gweler isod fwydlen o’r wledd fawr y Dolig. Yn ogystal a pharatoi y bwyd i gyd roedd Rhiannon wedi bod yn brysur yn meddwl lan am gemau bach i’n difyrru yn ogystal â ‘animal balloons, party poppers & crackers’, yn wir cawsom y ‘full works’. A jyst rhag ofn roeddech yn meddwl fod hyn i gyd yn digwydd o dan do, o na, roeddem allan yn yr ardd yn mwynhau’r haul a chynesrwydd yr hwyrddydd. Cawsom amser wrth ein bodd yn dod i nabod pobl a mwynhau a chael llawer o sbort yn eu cwmni. Diolch o galon i Rhiannon a Jamie a phawb arall am Ddolig bythgofiadwy.

CINIO NADOLIG 2007

Oysters with crème fraîche & salmon roe
Avocado wontons with salsa
______________________________________

Prawn or chicken rocket salad with lime butter dressing
______________________________________

Ham glazed with pomegranate
Beef crusted with coriander & pepper
Turkey with walnut and cranberry stuffing

Potatoes a la Tim
Beans and carrots with wilted rocket and lemon
Asparagus on peas with vinaigrette dressing
Squash with garlic
Tomato & bocconcini
______________________________________

Ice cream bombe
Mini Christmas puddings
Nana’s brandy sauce
Melon and berry salad

No comments: