Saturday, 26 January 2008

The Good, the Bad and the … Welsh!

Wedi mwynhau dydd Dolig yn fawr bydde chi’n meddwl mae rhybeth bach tawel fyddai Gwyl San Steffan. O na. Diwrnod mawr arall yw fwynhau yw GSS i’r Melbourne Breeses. Draw yng nghartref Lynne roedd dau ddwsin ohonom yn cwrdd - ie, dau ddeg pedwar yn deulu a ffrindiau. Yn gyntaf i fwynhau gwledd o ginio arall a chyfle i bawb ddod i nabod eu gilydd. Wedyn roedd y paratoiadau ar gyfer ffilm y prynhawn yn cael eu wneud. Na, nid trefnu digon o seddu ogwmpas y teledu a chael y popcorn yn barod ond ‘dress rehearsal’ a darllen y sgript dwi'n ei feddwl. Ie, traddodiad GSS y Melbourne Breeses yw gwneud ffilm gartref a does dim dewis gan neb, mae rhaid i bawb gymryd rhan. A Western oedd thema y ffilm ar gyfer eleni. Roedd Nia wedi cael rhan fel un o ferched dawnsio y salwn ac roeddwn inne yn un o dri Desperados. Yn ogystal, roedd yna bedwar Mexican yn ei hatiau mawr a’u ‘panchos’, tua wyth o Indiaid Cochion gyda’u plu a’u bwa a saith, un sheriff a’i ddau dirprwy gyda’u gynau a’u bathodynnau, tair o ferched dawnsio gyda’u plu boa a’u gwisgoedd lliwgar ac Emlyn fel y gweinidog yn ei got fawr trwm . Y stori yn fyr yw mae’r 3 Desperado (y ‘baddies’) yn herwgipio Little Squaw a’i gwerthu i’r Mexicans (rhagor o ‘baddies’). Mae’r Sheriff a’i dirprwyon (wrth gwrs y ‘goodies’) yn helpu’r Indiaid Cochion (sydd wedi’u camdrin), yn gyntaf i hela’r Desperados i lawr a’u rhoi yn y carchar ac yna i fynd ar ôl y Mexicans i achub Little Squaw. Yn ffyddlon i arddull Hollywood mae ‘na glo hapus i’r ffilm gyda Deputy Dawg a Little Squaw yn priodi ac mae pawb yn byw yn hapus byth wedyn (heblaw y Desperados sydd yn y carchar a’r Mexicans sydd wedi’u saethu i gyd). Cafodd y ffilmio ei wneud ar hyd y lle i gyda, yn yr ardd gefn, yn stafell wely Emlyn, rownd ochr y ty, o flen y ty a hyd yn oed allan ar y stryd ble roedd yna ychydig o dorf yn casglu erbyn y diwedd. Cawsom sbort a hanner wrth wylio a chymryd rhan, yn gwenud popeth lan fel roeddem yn mynd yn ein blaenau a defnyddio’r holl fathau o ategion (props) gan gynnwys potel o sos coch ar gyfer y ‘shoot-out’ mawr ar y diwedd. Bydd y ddwy cyfarwyddwragedd, Rhiannon ac Amanda, yn dechrau gyda’r cynhyrchiad ym mis Chwefror a gobeithio dderbyniwn gopi o’r DVD yn barod erbyn arddangosiad cyntaf o’r ffilm yng Nghymru Dolig nesaf. Edrychwch allan pawb adre’, mae hyn wedi rhoi llawer o syniadau i ni!!!!!!!!!!!

No comments: