Nid oeddem am adael i’r gwynt a’r glaw sbwilio ein cyfnod yn Nunmoochin ac yn ychwanegol i’r sesiynnau nofio a gwylio bywyd gwyllt, prysur iawn y buom. Ar y Sadwrn fe’r aeth Sally, Ali, Nia a finne i ‘Roller Skating’. Roedd Sally wedi cael ei blas cyntaf o’r hwyl yma ar drip ysgol yn ddiweddar ac roedd yn ysi am cael mynd eto. Wrth fynd ogwmpas y neuadd sglefrio ar fy ‘mlades’ roeddwn yn araf bach yn cael hwyl arni. Ond yna ar ambell i adeg bydde fy mreichiau yn cael eu chwifio’n ddwl yn yr aer a nghoesau yn mynd i wahanol gyfeiriadau neu’n clymu yn eu gilydd ac yna byddwn bron a chael cwymp dramatig … bron wedes i! Wrth ddyfalbarhau a cheisio osgoi pawb arall, a oedd yn gamp yn ei hun, gwella gwnes i tan yn gan bwyll bach bydde’r ddawns digri yn digwydd yn llai a llai amal. Fe ddigwyddodd yr un fath gyda Sally ac Ali ond gyda Nia, fe’r aeth ogwmpas y neuadd UNWAITH, heb adael fynd o’r ochr am eiliad yna i ffwrdd a hi i eistedd lawr i wylio pawb arall a dim mentro ar un cynnig arall! Gyda llaw, mae gen rhai lluniau da o Ali ar ei ‘skates’.
Gyda’r hwyr ryw noswaith ymwelon â marchnad St. Andrews, very hippyish … very Ali! Tro arall yn St. Andrews aethom i weld cwpwl o fandiau lleol yn chwarae yn fyw – eitha da rhaid dweud. Byddai Martin Wright wedi mwynhau ei hun y noswaith ni os na bydde fe wedi ymuno â'r bandiau ar y llwyfan. Ymwelsom a dinas Melbourne hefyd pan yr aeth y tîm SAS i’r bale (mae nhw’n deulu bach digon diwylliannol chi’n gwybod). Roedd Nia wrth ei bodd yn cael mynd ogwmpas y siopau … a phrynnu dillad newydd. So ddi’n gwybod nad dyna beth mae ‘backpackers’ fod ei wneud!! Ond cawsom fynd am bryd o fwyd i’r Italian Waiters Club … ble roedd merched yn gweini. Roedd y bwyty yn edrych yn le digon cyffredin a phlaen gyda byrddau a chadeiriau cymysg, dim byd crand ogwbwl. Ond mi’r oedd y lle yn llawn dop a rhaid oedd i ni aros mewn ciw am fwrdd gwag. Ac mi’r oedd yn werth yr aros, mi'r oedd y bwyd yn benigamp.
Tro arall fe’r aethom i winllan Redbox am brynhawn i flasu’r ‘grog’ lleol. Cawsom groeso cynnes a chael ein hadlonni gan y perchennog. Cawsom flasu nifer fawr o’u winoedd ac roeddent o’r safon gorau (nid fy mod yn esgus bod yn arbenigwr ond dwi yn gwybod beth dwi yn ei hoffi). Mwynhau wedyn bach o ginio yno gyda photel o win roedd Simon wedi’i ddewis. Roedd yn brynhawn braf iawn, os nad ychydig bach yn tipsi.
Yn ogystal a phwll nofio, mae gan Dunmoochin gyfleuterau chwaraeon eraill, sef lawnt croquet (heb graswellt) a phit ar gyfer chwarae boules. Ac mi’r oedd yna gystadlu brwd iawn yn erbyn y dau dîm – Nia ac Ali yn erbyn Sally a minne. Ond doedd dim otch pa mor galed roedd Nia ac yn enwedig Ali yn trio nid oeddent yn medru ein curo. Yn wir, mi’r oedd Ali mor awyddus i ennill gêm o ‘croquet’ ar un achlysur fel tra bod Sally yn erfyn iddi beidio fe fwrodd Ali pêl ei mherch i ganol y ‘bush’ er mwyn trio ennill mantes. Cywliydd arno ti Ali. Ond does dim angen holi, wrth gwrs fe waneth Sally a finne gario’r dydd.
Ar ein pnawn olaf gyda’r tim SAS, sef diwrnod cyn Nadolig, roedd yna dipyn o baratoi. Rhaid oedd paratoi ein bagiau gan ein bod yn symud ymlaen i’n rhan nesaf o’n taith, paratoi ar gyfer y Dolig (wel, mi’r roedd y tîm SAS yn) a hefyd paratoi ar gyfer mynd i’r gyngerdd Carols by Candlelight yn y Sidney Myer Music Bowl yng nghanol Melbourne gyda’r hwyr. Mae’r gyngerdd yn cael ei ddarlledi’n fyw ar ddraws Awstralia ac mi’r oedd rhestr hir o enwogion Awstralia yn canu yno … ond neb roeddwn i wedi’u clywed amdano o’r blaen. Roedd y gyngerdd yn un hwylus iawn gyda canu da, cynulleidfa gwell - miloedd ohonynt yn eu hatiau Siôn Corn yn ymuno a’r canu ac yn chwifio eu canwyllau yn yr awyr, ond gorau i gyd oedd y picnic arbennig roedd Ali wedi’i baratoi.
Roedd yn drist iawn gorfod gadael y Tîm SAS ar ôl y gyngerdd ond mi’r oedd rhan nesaf o’n antur yn disgwyl. Diolch yn fawr iawn i Sally, Ali a Simon am wythnos fach hyfryd dros ben, fe fwynhauom pob munud o’n amser yn eich cwmni. A diolch hefyd am ein cyflwyniad i’r ‘Australian bush’.
Tuesday, 22 January 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
Mae eisiau handbag yn fwy o seiz arnot ti!!
Here we go again!! Hwn yw'r trydydd tro nawr, so does dim rhagor o gynnigion i'r Cymry.
Tickets for six nations games came today we've managed to get them for all the home games, any chance you'll be back to join us?
I'm sure you're missing the wind and the rain, when you're sitting on the veranda with your bottles of wine!!
You'll be pleased to hear Ni that I resisted the urge to buy an outfit and some shoes!!!!!
will email soon xxxxxxxxxxxx
Rwyn falch clywed bod ti wedi bod yn siopa Nia (felle bydd rhaid prynni backpack fwy of seis!!) a neis clywed bod y bwyd a'r gwin yn cadw i fynd. Hwyl fawr. Fe wnai ffonio dydd Sadwrn, dim wedi bod gatre digon cynnar o gwaith, os ydi chi'n cofi beth yw ni!!,yn yr wsnoth.
xxxx mags a phill, rosie,jess, sadie,pero,cassie,frostie a cookie
Chrissy - you are obviously missing me more than you're letting on ... resisting the urge to splurge on clothes. It has taken you years to perfect this skill, don't let it slip just because I've gone away for a bit.
Post a Comment