Wednesday, 12 December 2007

Laos, Comiwnyddiaeth a Tiwbio (Rhan 2)

Wedi Luang Praban, tro Vang Viene ydoedd hi ac ni all VV fod yn fwy wahanol i LP. Yr unig beth yn gyffredin roedd ganddynt oedd y ffaith fod y wlad o'u cwmpas mor brydferth. O'r cyfan gwelom ni o Laos y mae'n wlad heb ei sbwlio a ble mae dyn o hyd yn cydfyw a natur. Mae ganddi ei mynyddoedd a'i chymoedd a'i choedwigoedd jyst fel Cymru ond nid yw cweit mor wyrdd - fwy o gyfuniad o felyn a gwyrdd.

Yn VV roedd y dref wedi ei amgylchynu gan olygfeydd dramatig o greigiau 'Karst'. Creigiau calchfeini ydynt wedi ei herydu gan law. Cefais y fraint o drafaelu drwyddynt wrth fynd ar diwb mawr rwber i lawr yr afon Nam Song. Ond i fod yn hollol onest, nid yr olygfa oedd y prif nod y daith ar y tiwb rwber 'ma. Gwir pwrpas y tiwb oedd symud i lawr yr afon, yn reit hamddenol, ac aros bob hyn a hyn wrth ymyl far am ddiod neu ddau. Yn ogystal a'r cwrw ac er mwyn cystadlu yn erbyn eu gilydd, byddau gan bron bob far swing mawr ble byddai pawb yn dringo i fyny i lwyfan (wedi ei wneud o fambw) cyn neidio i ffwrdd ar rhaff fawr a hedfan drwy'r awyr cyn gadael fynd a chwympo i fewn i'r afon islaw. Llawer iawn o sbort! Er mwyn cadw fy 'Tarzan act' i fyny, rhaid oedd, wrth gwrs, neidio oddi ar bron pob swing oedd ar gael. Nes i ddweud gymaint o sbort ydoedd? Roedd mor dda, fe wnes i ei ail wneud y diwrnod canlynol.

Yn y dref ei hunan, nid oedd ryw lawer i wneud heblaw am orweddach, ie gorwedd, mewn barau a gwylio pennawdau o'r rhaglen 'Friends' un ar ol y llall ... drwy'r dydd! Ar ein llw, a dwi yn cyfadde ein bod ni'n dau yn ffan mawr o 'Friends', ond ni wnaethom wylio'r un bennod. Ac os oeddech yn dod ar ddraws bar nad oedd yn dangos 'Friends' yna byddau 'Sex in the City' yn cael ei ddarlledi. Roedd bod yn VV yn syril reit - methu a chredu ein bod yn Laos ar adegau - roedd yn teimlo fwy fel Ibiza neu Aya Napa. Ond jyst fel roeddem yn amau ein bod yn Laos fe ddigwyddodd rhywbeth gwnaeth gadarnhau ein bod yn wirioneddol yno. Ar un achlysur aethom gyda chriw o deithwyr eraill draw i'r ynys fach yng nghanol yr afon am ddiod tawel gyda'r hwyr (bar bach agored ydoedd heb ddim teledu yn agos). Yn fuan wedi i ni cael ein diod fe caewyd y bar gan ei bod yn hanner i ganol nos (amser cau arferol yn Laos). Nid oedd hyn yn ein poeni gan ein bod ni gyd yn cymdeithasu'n ac yn cael hwyl yng nghwmni'n gilydd ger coelcerth fawr. Roedd yna griw arall yr ochr draw i'r goelcerth ac roedd pawb yn ddigon hapus. Hapus hynny yw tan i griw o ddieithriaid droi fyny a jyst sefyll wrth ein hymyl. Pan dwi'n dweud dieithriaid mwy fel y 'local militia' oeddent. Pobl lleol, aelodau o'r Parti, wedi dod i sicrhau ein bod yn dychwelyd yn brydlon i'n gwelau cyn gynted ac sy'n bosib. Araf roeddem i ddeall y neges ond unwaith i ni sylwi beth oedd yn digwydd ni wnaethom hongian ogwmpas yn hir ac off a ni am ein gwestai gyda'r 'militia' yn ein dilyn. Nid oedd yna unrhyw problem yn dilyn y digwyddiad ond mi'r oedd yn atgof o'r ffaith ein bod mewn wlad gomiwnyddol, ble roedd Y Parti yn rheoli bron popeth - hyd yn oed yr amser roedd pawb i fynd yw gwelau!

Pen ein taith yn Laos oedd y brifddinas Vientiene. Efallai y brif ddinas mwyaf 'laid back' yn y byd ble roedd popeth yn mynd yn ei flaen yn hamddenol reit. Ymwelon ni a fersiwn Laos o'r Champs Elysees, roedd Laos gynt o dan rheolaeth Ffrainc ac mi'r oedd yno lawer o ddylanwadau Ffrengig, a hefyd Phat That Luang sef teml mwyaf pwysig Laos. Hefyd, cawsom ein pryd cyntaf mewn bwyty Fietnamaidd. Bwty syml ydoedd ac fe ddysgom mai 'Spring Rolls' yw bwyd cenedlaethol Fietnam a finne bob tro wedi meddwl mae bwyd Tsieiniaidd ydoedd ('da ni'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd). Rhiad oedd cael gwers o'r weinyddes (heb fawr o Saesneg) i'n dangos beth i wneud a'r holl fwyd o'n blaenau ond mi'r oedd popeth yn flasus dros ben.

Yn anffodus daeth ein hamser yn Laos i ben yn llawer rhy gloi a ninnau ond wedi megis crafu wyneb y wlad. Mwynheuon pob munud o'n taith yn y wlad fach hyfryd yma - hyd yn oed pan cawsom ein hebrwng i'n gwelau gan swyddogion Y Parti. Hyfryd oedd gweld gwlad sydd prin wedi ei datblygu ond oherwydd hyn tlawd iawn yw'r pobl. Er eu tlodi roedd yn fraint cael cwrdd a chymaint o fobl oedd yn edrych yn hapus gyda'u byd, gwen parod ar eu gwynebau a pharod eu cymwynas. Yn ogystal a hyn, braf oedd cael cwrdd a gwneud ffrindiau a chymaint o deithwyr eraill wrth i ni deithio gyda hwy drwy Laos: Thomas o'r Swistir, Martha o'r Ffindir, Maria ac Evelina o Sweden a chael cwrdd eto a'r criw trecio o Chiang Mai - Gibbo, Katie, Mezza a Scott.

1 comment:

Myfanwy said...

Death Railway Hellfire Pass sounds a bundle of fun. Bet you wish you were in a British puddle like the rest of us...
I can't wait to follow in your footsteps, especially as you've gone to all the trouble of mapping the itinerary.
Sending fondest love,

Myfanwy. XXX