Saturday, 29 December 2007

Gwyl, Temlau a Bwyd Da yn Ayutthaya

Ayutthaya oedd y stop nesaf ar ein taith - hen brifddinas Thailand (cofiwch mae Sukhothai oedd y brifddinas hynafol). Nid yw Ayutthaya yn ddinas arferol llawn o deithwyr fel rydym wedi canfod ar rhan fwyaf o'n taith mor belled. Mae'n ddinas tipyn fwy cyffredin a oedd yn syndod i raddau o ystyried yr holl hanes sy'n gysylltiedig a'r ddinas yn ogystal a nifer fawr o demlau sydd wedi eu lleoli yno. Yn unol a awgrymiad Lonely Planet euthom yn gyntaf i Ganolfan Astudiaeth y ddinas i gael dealltwriaeth o ddatblygiad y ddinas ac reit yna fe ddaethom ar draws paratoadau mawr ar gyfer dathlu Gwyl Treftadaeth Ayutthaya.

Roedd yna ganoedd o fobl mewn pob math o wisgoedd lliwgar yn adlewyrchu gwahanol gyfnodau a phobl yn hanes y ddinas. Yn ogystal roedd plant ysgol gyda'u gwisgoedd arbennig eu hunain, dwsin o eliffantod wedi eu harddurno'n lliwgar (ac un wedi ei beintio'n wyn) gyda rhyfelwyr yn eu marchogaeth, degau o cerbydau tuk tuk o wahanol lliwiau, byddin o ddynion a llu o wragedd mewn gwisgoedd traddodiadol a Nia a finne yng nghanol hwy i gyd - yr unig ddau nad oedd yn cymryd rhan yn yr Wyl ac yn mwynhau pob munud a phawb ond yn ddigon hapus i mi gymryd eu lluniau - buodd y camera erioed mor frysur.

Byddai'r profiad yma yn ei hunan yn fwy na digon i ni adael Ayutthaya yn hapus ac yn gwybod ein bod wedi gwirioneddol mwynhau ymweld ar ddinas ond doedd hynny ddim yn cynnwys yr holl demlau arbennig oedd yna, rhai mewn cyflwr arbennig o dda i ystyried eu hoedran a'r cwbwl yn ddiddorol dros ben. Fe gwbwlhawyd mwynhad y ddinas wedi i ni ddod ar draws bwyty bychan ble roedd y bwyd Thai yn fendigedig - rhaid oedd ei ymweld eto y diwrnod canlynol.

Fe warion ni ddiwrnod a hanner yn ymweld a Ayutthaya, ac ni wastraffon yr un eiliad tra yna a ni chawsom ein siomi chwaith.

No comments: