Saturday, 29 December 2007

Tacsi Rhywun?

Os roedd y siwrne o'r ffin i Siem Reap yn gyffroes yna roedd y siwrne nol i'r ffin bron yn angredadwy. Dechreuodd popeth fynd o chwith yn Siem Reap, cyn gadael y dref. Fe'r aeth Sky a ni i'r man cyfarfod ar gyfer dal y bws a oedd i fynd a ni nol i Dailand - er roedd y bws fod i'n codi o'n gwesty. Y rheswn dros hyn, mae'n troi allan, yw fod sut gymaint o fobl wedi bwcio sedd ar y bws ac erbyn i'r bws droi lan i'r man cyfarfod roedd yn barod bron yn llawn dop. Am ryw reswm roedd rhai pobl a oedd yn y man cyfarfod gyda ni yn cael cymryd yr ychydig le oedd ar ol ar y bws ond nid y rhai eraill, gyda Nia a finne yn ddau o'r rhai hynny. Mae'n troi allan fod trefnwyr y bws wedi derbyn llawer fwy o archebion am seddi nac oedd yna le ar y bws. Felly, yn hytrach na chael cynnig lle ar y bws cawsom ein tywys, gyda 3 person arall, i dacsi a oedd i fynd a'r pump ohonom, gan gynnwys ein bagiau (a cofiwch mae trafaelwyr oeddem i gyd gyda bagiau mawr) i'r ffin. Wel, ar ol i ni stwffio gymaint o fagiau a phosib i fewn i fwt y car fe drio ni weld a allem ffitio un yn y sedd flaen ger y gyrrwr (dim problem) a 4 i'r sedd gefn gyda gweddill ein bagiau!! Nes i son mae car digon cyffredin ydoedd y tacsi yma ac nid ryw 'estate' fawr neu 'people carrier' moethus. Roedd y dasg yn amhosib ... os nad oeddem am cael ein trin fel anifeiliaid fferm. Ac fe ddechreues i ddweud hynna yn blwmp ac yn blaen wrth y 'jumped up little' Hitler a oedd yn gyfrifol am bopeth. Dywedwn ni fod yna ychydig o gwmpo mas wedi digwydd cyn i mi ystyried fod angen i mi gnoi fy nhafod ychydig os yr oeddem am adael Siem Reap ar ryw adeg y bore 'ny. Yn hytrach fe gadawais y teithwyr eraill i gario ymlaen ble gadawais i hi, i ymladd am elfen o gysur i'n taith. Dwi'n siwr nad oes gair yw cael yn iaith Cambodia am cysur.

I dorri stori hir yn fyr, fe ddechreuom ar ein taith i'r ffin gyda ond 3 person yn sedd gefn y tacsi dim ond ar ol i'r pedwar ohonom a oedd yn rhannu'r tacsi gytuno i dalu dwy dolar (UDA) yr un yn fwy am y fraint o cael elfen o gysur. Nawr, dim ond punt yr un roedd rhaid i ni dalu'n ychwanegol ond oherwydd egwyddor y peth (roeddem eisioes wedi talu am ein sedd ar y bws) nid oedd yn beth rhwydd yw dderbyn a'i wneud. Ond talu gwnaethom o dan brotest ac o'r diwedd roeddem ar ein ffordd.

Dyna ddiwedd y cynwrf bydde chi'n feddwl ... o na!

Un peth da am gael mynd yn y tacsi yn lle'r bws oedd y bydde'r siwrne ddim yn mynd i gymryd 6 awr. Yn wir roedd ond dwy awr wedi mynd heibio a ninne ond tua 10 munud o'r ffin pan ddigwyddodd rhywbeth roedd y pedwar teithiwr yn y tacsi wedi bod yn gweddio am ddim i ddigwydd - cawsom deiar fflat! Dim syndod o ystyried cyflwr y ffordd a'r cyflymder gyrrwyd y car. Dim problem meddyliwch, y cwbwl sydd yw wneud yw newid y teiar. Wel yn gyntaf roedd cael y teiar fflat i ffwrdd o'r car bron a bod yn amhosib, gyda llwyddiant ond yn dod unwaith i'n cyd deithiwr o'r Almaen cynnig ychydig o cyngor synhwyrol i'r gyrrwr. Daeth y teiar fflat yn rhydd ond i ddarganfod fod y teiar sbar hefyd yn fflat. Digwydd bod, jyst ar yr adeg pan roedd pawb yn meddwl y byddai rhaid i ni gario ein bagiau a cherdded gweddill y daith i'r ffin fe basiodd rhywun mewn car gweddol moethus a oedd yn nabod gyrrwr ein tacsi a ni fuodd ein gyrrwr yn hir yn trefnu lifft i ni i'r ffin. Hwre meddyliom, mae ein lwc wedi newid ... o na!

Cyrrhaeddom y ffin yn iawn, dim problem, ac fe adawodd ein gyrrwr newydd ni allan reit wrth ymyl y swyddfa mewnfudiad. Gyda Thailand mewn golwg dechreuom feddwl ein bod wedi goroesi popeth roedd gan ffawd mewn golwg iddom y diwrnod hynny. Ond mi'r oedd yna un prawf arall iddom ymdopi a - methodd bwt y car a oedd yn cynnwys ein bagiau i gyd agor. Fe driodd y gyrrwr bopeth, fe ddaeth ei ffrind draw i drio agor y bwt hefyd ond dim llwyddiant. Rhaid oedd felly i mi fynd ar ben fy hun (fe arhosodd Nia a'r ddwy deithwraig arall ger y ffin) gyda'r gyrrwr i wilio am garej er mwyn cael sortio'r broblem. Diolch byth doedd dim rhagor o gymhlethdodau ac fe cawsom afael a'n bagiau a dianc allan o Cambodia a nol am Bangkok.

Rwyf newydd feddwl am deitl ffilm i fynd gyda'r sgript uchod ... Carry On Get Me Out of Cambodia!

No comments: