Wednesday, 5 December 2007

Y Mekong!

Ymddiheuriadau i'm gwylwyr cyson sydd heb cael hanes ein antur yng Ngymraeg ers beth amser ... ond mi'r wyf wedi bod yn brysur iawn ... yn mwynhau fy hun!

Buom dau diwrnod yn trafaelu i fewn i Laos gan hwylio'n araf i lawr yr afon Mekong. Yn anffodus, nid oedd moethusrwydd yn uchel iawn ar restr perchnog ein cwch, ei brif nod oedd cael gymaint a phosib o bobl ar ei gwch (roedd tua 100 ohonom i gyd). Yn ffodus i ni, cawsom bobi "sedd" sef darn o bren caled ryw 3 trodfedd wrth 6 modfedd, un tu ol y llall, tra roedd rhaid i eraill rannu un sedd. Yn ffodus hefyd roedd yr olygfeydd ysblennydd a wnaeth fyny am unrhyw ddiffygion y cwch. Dau diwrnod hir ydoedd ond fe'i mwynheuais, yr ail ddiwrnod yn arbennig gan roeddwn yn gwybod beth oedd yn ein disgwyl ac mi'r oedd yr haul allan yn twynnu'n braf tra roedd y diwrnod cyntaf braidd yn dawchlyd (hazy). Roedd fwy o sbort ar y cwch hefyd erbyn hynny gyda pawb yn nabod eu gilydd yn well ac felly roedd tipyn fwy o gymdeithasu.

Rhaid dweud roedd hi'n anodd credu ein bod wedi gwario dau ddiwrnod cyfan yn hwylio'r afon Mekong. I mi roedd y Mekong erioed wedi bod yn le anghysbell reit, yn rhedeg drwy jwngwl dwys mewn man peryglys o'r byd (yr argaff yma yn tueddi dod o wylio ffilmiau Holywood ac o'r hyn wyddwn am hanes y rhyfel yn Vietnam). Y gwir yw, mae yn le anghysbell ac mae'r afon yn rhedeg drwy jwngwl dwys ond nid am un funud teimlais ei fod yn le beryglus o gwbwl. Roedd y cwch yn hwylio'n hamddenol i lawr yr afon yn osgoi'r trobyllau a chreigiau bob yn awr ac yn y man ac yn glanio ambell i dro i bigo rhai brodorwyr i fyny. Cawsom eistedd a chymryd i fewn y wlad hyfryf o'i chwmpas a thynnu dwsine o luniau a chwifio at y plant wrth ymyl y glannau bob hyn a hyn wrth i ni basio'r pentrefi bach sydd wedi eu ymwasgaru ar hyd yr afon. Braf oedd y profiad a braint oedd cael ei wneud.

3 comments:

Mwsh said...

Paid a becs Mark, fi'n siwr oedd dy ben ol di yn ddigon o gwshin ar y seddu pren 'na!!!

Fi'n genfigenus iawn o'ch anturiau - you could at least pretend not to be enjoying yourselves as much!

Yn falch iawn bo chi'n mwynhau rili!!!

Cariad mawr Kim xxx

Stumpy said...

Stumpy has to sign-off now. Have a truly fantastic trip, and come back with all the freckles joined-up. I look forward to seeing you when you return next autumn.

Stumpy said...

Stumpy has to sign-off now. Have a truly fantastic trip, and come back with all the freckles joined-up. I look forward to seeing you when you return next autumn.