Trist iawn oedd ein hymweliad olaf a Bangkok mewn ffordd gan fod cymal cyntaf ein antur yn dod i ben. Rydym wedi mwynhau pob munud yn gweld a phrofi pethau na fydden byth yn credu y bydden yn cael y cyfle i'w gwneud. Cael gweld tair gwlad mor debyg ar yr un llaw, ond mor wahanol ar y llall, a chwrdd a gwneud ffrindiau gyda sut gymaint o fobl. Byddwn byth yn eu anghofio. Ar ol un 'massage' olaf a diolch a ffarwelio gyda bobl yr hostel ar caffi drws nesaf oeddem wedi dod i'w hadnabod yn dda dros yr amser buom ym Mangkok, i ffwrdd a ni i'r maes awyr ... ac am Awstralia.
Edrychwch allan chi'r Aussies - dyma ni'n dod!
Sunday, 30 December 2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment