Pen y daith hir ond hyfryd ar hyd y Mekong oedd dinas hynafol Luang Prabang. Hen brifddinas Laos yw LP, dinas hyfryd dros ben ac mae'r ddau ohonom wedi penderfynnu yn barod y byddwn yn mynd nol rhyw ddiwrnod (yn fuan gobeithio) gan mae ond cwpwl o nosweithiau roedd gyda ni yno. Wedi i ni gyrraedd fe aethom allan am bryd o fwyd ac yn gorffen lan yn bwyta ar y stryd gyda torf o deithwyr eraill. Roedd yna deulu o weithwyr yn cynnig gymaint ac y gallwch roi ar eich plat a gyda photel o Beer Lao costiodd popeth ond punt iddom. Pobl cyfeillgar iawn yw pobl Laos ac er mor dlawd yr oeddent nid oedd neb yn eich gwyneb yn gwerthu'u nwyddau. Roedd y farchnad yn cynnig nwyddau a chrefftau roedd y brodorion wedi gwneud ei hunain o'r safon uchaf ac roedd popeth mor lliwgar. Os un peth yn unig byddaf yn cofio o Laos yna lliwiau ffantastig y farchnad bydd hynny. Roeddem am brynnu popeth ond yn anffodus nid oedd hynny yn bosib. Pan ddown ni yn ol byddwn yn dod gyda bobi 'suitcase' gwag i'w llanw.
Tra yn LP euthom i weld Rhaeadr Quang Si - prydferth iawn gyda'i dwr lliw glas tyrcwais. Cefais gyfle i ymestun fy rhan fel Tarzan wrth swingo ar raff o dop goeden i fewn i'r pwll oer o danaf - llawer o hwyl. Ond y ser y sioe oedd Phet y teigr a chriw o eirth bach du (Asiatic Moon Bears). Roeddent i gyd wedi eu achub o grafangau potswyr - Phet pan oedd ond yn 4 diwrnod oed. Roedd yn brofiad anhygoel gweld y teigr yma yn gorwedd yn hamddenol reit ond cwpwl o lathenni ohonom gyda'g ond ffens weiar cyffredin rhyngddom (un uchel iawn diolch byth - doedd gennyf ddim chwant fod yn agosach er pa mor hyfryd a thawel roedd Phet i'w weld). A chawsom dipyn o hwyl yn gwylio'r eirth yn chwarae gyda hen deiars neu yn dringo yn y coed neu ond yn cysgu ar lwyfan gyda un choes yn hongian i lawr.
Un o'r pethau cyntaf i ni sylwi roedd yn wahanol yn Laos wrth gymharu a Thailand oedd y cyflymder roedd pawb yn ei drafaelu ar y ffyrdd. Ychydig iawn o geir oedd yno o gymharu ac adref ond roedd digonedd o scwters a tuk tuks a phawb yn trafaelu mor araf ... na, yn fwy hamddenol yn well ffordd o'i ddisgrifio. Doedd pryn neb yn trafaelu yn gyflymach na 20 milltir yr awr a oedd yn help i rhoi'r argraff hamddenol iawn o LP a phob man arall yn Laos yr oeddwn wedi aros yno.
Elfen ffres arall daethom ar ei draws yn Laos oedd yr angen i fod nol yn ein gwesty cyn hanner nos. Dyma rhan o fywyd yn y wlad gominyddol yma. Mae Laos yn un o ond 5 gwlad yn y byd bellach sydd o dan reolaeth comiwnyddol (Tsieina, Gogledd Korea, Cuba a Vietnam yw'r 4 arall). Fel yr oeddwn yn teithio o un ardal i'r llall rhaid oedd i'r bws roeddem yn trafaelu ynddo adrodd i'r awdurdodau yng nghyntaf gan fynd heibio ei mannau gwirio. Roedd hyd yn oed yr angen i ni adrodd i'r awdurdodau pan roeddem ond yn gadael tref er mwyn ymweld a man cyfagos. Ond doedd dim byd 'sinister' am hyn o gwbwl, dyma beth oedd y drefn - dyna'r cwbwl. Ac i raddau roedd rhywbeth digon cysurus am y drefn yma.
Monday, 10 December 2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment