Nadolig Llawen Awstralaidd i bawb gartref o Melbourne.
Rydym dros hanner ffordd trwyddo'r diwrnod yma a chithe ond megis cychwyn ond mi'r ydym wedi cael brecwast mawr ffantastig gyda Rhiannon a Jamie, cael mynd am dro hyfryd ar hyd y traeth o Brighton i St kildas a nol, cinio bendigedig gan Eifion o wstrys (oysters) a cimwch (lobster) a chwrw oer a byddwn yn mynd nol i Rhiannon a Jamie cyn hir am ginio Nadolig hwyr. Rydym wedi cael Dolig gret mor belled a gobeithio y gewch chi gyd yr un fath nol adre.
Gyda llaw, jyst rhag ofn bod rhai ohonoch yn meddwl beth yw'r tywydd fel yma, mae Nia a finne wedi dal haul bore 'ma ar ein wac ar hyd y traeth ... mae'n fendigedig ac rydym yn edrych fel dau Rudolff bach.
Tuesday, 25 December 2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment