Wow, beth yw hyn? 3 blog mewn 4 diwrnod gan Richards - beth sy'n bod ag ef. Wel yr ateb yw dwi wedi cael rhai dyddiau ychydig fwy hamddenol a nid yw'r deithlen (itinerary) wedi bod mor fishi. A hefyd mae gwaith dal lan gyda fi achos fod swoti pants Ifans reit 'up-to-date'.
Ar ol gadael Laos roedd hi'n cwic dash i Nang Kong (ble cawsom ni pryd bach hyfryd arall o fwyd Fietnam) er mwyn dal tren dros nos am Bangkok. Gadael am 6 yr hwyr a chyrraedd 6 y bore gyda ychydig o gwsg er fod bobi wely ar gael iddom. Cysgodd Nia fel babi gan iddi gael y bync gwaelod! Dwy awr ar ol cyrraedd roeddem ar fws i Siem Reap, Cambodia. Ges i lot fwy o gwsg ar y bws i'r ffin a Chambodia na ges i ar y "sleeper" tren. Wedi'r rigmarol o cael fisa i Cambodia a fynd drwy'r imigresion cawsom ein tywys ar fws oedd wedi mynd rownd y clock ddwy waith yn barod cyn i dad cael ei eni! Ac os oedd hynny ddim yn digon drwg, wel dylech chi weld y ffyrdd - a dwi'n defnyddio'r term ffyrdd yn rhydd iawn yma. 'Dirt track' caled llawn tyllau mawr oeddynt ac fe gymherodd hi dros 6 awr yn y 'heap of junk' roeddent yn ei alw yn fws i deithio'r 150km i Siem Reap. Nawr gallwch weithio allan pa mor gloi roeddem yn ei drafaelu! Ac i wneud pethach yn wath byth eto, nid oedd drws y bws yn gallu cau ac felly erbyn i ni gyrraedd roedd pawb gan gynnwys ein bagio wedi eu orchuddio gan y dwst coch y ffordd - roedd y dwst ym mhob man. Dwi wedi son gymaint a phosib am yr elfen yma o'r daith fel fod pawb gartref yn gallu cymryd bach o gysur nad yw popeth yn fel i ni yma ochr hyn y byd ... ond mae bron a bod ddo. (Sori ond dwi ddim yn gwybod sut mae cael 'to' ar ben llythyrau wrth ddefnyddio bysedd fwrdd Thailand felly bydd rhaid i chi fod yn amyneddgar gyda'r sillafu.)
Ta beth am y siwrne, y rheswm am fynd i Siem Reap yw mae yma yw man yr Wythfed Ryfeddod y Byd. Dyma lle mae Angkor Wat, Angkor Thom, Ta Phrom a gweddill yr holl demlau sy'n gwneud yr ardal yma yn un pwysig ac arbennig. Ac mi'r oeddent yn arbennig dros ben. Cawsom ddau ddiwrnod o cael ein tywys o'u cwmpas yn mwynhau pob munud ac yn tynnu lluniau fel petai yn mynd allan o ffasiwn. Gwnes i hyd yn oed fwynhau gweld yr haul yn codi yn Angkor Wat er roedd rhaid codi am 5 y.b. (ie, da chi heb ddarllen yn anghywir - 5 y.b. ydoedd hi) er i ni fod yna llai na 12 awr cynt yn gwylio'r haul yn machlud. Dwi'n cytuno gyda Nia mae Angkor Tom, gyda'i teml Bayon, Terrace of the Elephants, Terrace of the Lepers ynghyd ac eraill oedd fy ffefryn. Roedd y cwbwl i gyda yn brofiad a hanner.
Thursday, 13 December 2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment