Wedi'r cyffro o drafaelu i Cambodia a nol a chael y fraint o weld y temlau arbennig yn Angkor roeddwn yn disgwyl cael rhai dyddiau o orffwys yn Bangkok. Ond y diwrnod cyntaf ar ol cyrraedd nol roedd yn benblwydd y brenin yn 80 ac mi'r oedd yna ddathliadau mawr. Yn Nhailand mae'r teulu brenhinol, yn enwedig y brenin a'r frenhines, yn cael eu parchu a'u hanrydeddu'n fawr gan y bobl i gyd (yn bersonol credaf fod y gyfraith sy'n bodoli ac sy'n galluogu'r awdurdodau i garcharu pobl am ddweud pethau amharchus am y teulu brenhinol yn helpu'r achos - ond mae pawb yn dweud mae hen 'cynic' dwi).
Yn digwydd bod ar yr un diwrnod roedd Nathan, sy'n gweithio gyda Nia, a'i bartner Chai, ym Mangkok ar yr un pryd ac fe dreulom y diwrnod cyfan yn eu cwmni. Gan fod Chai yn wreiddiol o Dailand a bod Nathan wedi byw ar adegau ym Mangkok roedd ganddynt ddigonedd o 'insider knowledge' o ble i fynd er mwyn ymuno a'r dathladau. Felly, dyna le oeddem yng nghanol Bangkok, ddim yn bell o balas y brenin, yn y dorf fwya dwi wedi bod ynddi erioed - tua miliwn o fobl ym marn Nia ond dwi'n siwr bod yn dipyn yn fwy na hynny. Roedd gan pob un ohonom dwy fflag yr un - un yn fflag Thailand ar llall yn fflag melyn y brenin, a rhaid oedd chwifio rheini at y brenin pan basiodd ac nid a'ch dwylo gan nad oedd hynny y peth iawn yw wneud. Mae tipyn o brotocol yw ddilyn yma yn Asia. Wedi diwrnod hir iawn o sefyllfan a disgwl - disgwyl i weld y brenin (am dwy eiliad!) ac yna disgwyl i weld y tan gwyllt ( a oedd yn eitha da i ddweud y gwir) ac yna disgwyl i weithio ein ffordd o ganol y ddinas drwy'r dorf enfawr a chilio am tuk tuk i fynd a ni i bwyty bach ar ochr y stryd ble roedd ond y brodorwyr yn mynd yn bennaf. Gan fod Chai yn frodorwr roedd yn gallu darllen y fwydlen (a oedd yn yr iaith Thai yn unig) ac mi'r oedd yn gallu archebu y prydiau gorau - tua dwsin ohonynt i gyd, ynghyd a bowlenni o reis stici a photel o'r wisgi lleol. Cawsom wledd o fwydydd gwahanol - bwyd wirioeddol lleol na fydden ni wedi trio heb Chai a Nathan gyda ni. Hyfryd iawn, iawn. Gorffenom y noswaith gyda ymweliad i'r Saxaphone Bar am gwpwl o ddiodydd a gwrando ar fiwsig y 'Blues' wedi ei ganu gan bobl leol. Diolch yn fawr i Nathan a Chai am ddiwrnod bendigedig yn eu cwmni ac am edrych ar ein holau a dangos ochr o Fangkok na fydde ni wedi ei ddarganfod ar ben ein hunain.
Saturday, 29 December 2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment