Gyda'n hamser yn Asia yn gloi yn dod i'w ben, tref Kanchanaburi oedd ein stop olaf cyn dychwelyd i Bangkok am y tro olaf a hedfan allan am gyfandir newydd. Cafodd Kanchanaburi ei wneud yn enwog oherwydd y bont dros yr afon Kwai a'r ffilm o'r un enw (Bridge Over the River Kwai). Dyma'r bont fe'i hadeiladwyd gan garcharorion rhyfel (POWs) Prydain, Awstralia, Yr Iseldiroedd, Seland Newydd ymysg eraill yn ogystal a llu enfawr o lafurwyr gorfodedig o Asia. O dan amodau creulon ac amgylchiadau ofnadwy gorfodwyd cannoedd o filoedd i adeiladu rheilffordd er mwyn cysylltu Burma a Thailand gan y Siapaniaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Nid y bont wreiddiol sydd yno bellach. Cafwyd ei ddinistrio fwy nac unwaith gan fomiau'r 'Allied Forces' yn ystod y rhyfel ond y mae o hyd yn cael ei ddefnyddio'n ddyddiol fel croesfan i'r rheilffordd. Nid yw iechyd a diogelwch wedi cyrraedd Thailand eto - ac ar y cyfan mae'n brofiad hynod o ffres - ond wrth groesi'r bont ar droed roeddwn i hyd yn oed yn cwestiynu yr angen amdano ac mae hyna yn dweud rhywbeth! I ddechrau roedd yna 200-300 o dwristiaid yn ei chroesi un ffordd neu'r llall ar yr adeg yr ymwelon ni a'r bont ac ond un llwybr cul, tua dwy droedfedd o led oedd ar gael yn rhedeg lawr canol y trac gyda dim barau diogelwch naill ochr y llwybr i'n cadw rhag cwympo degau o droedfeddu islaw i'r afon. Er i'r ddau ohonom groesi o un ochr i'r llall a nol eto nid oeddwn yn teimlo'n saff iawn ac yna yng nghanol mynd draw fe ddaeth y tren a rhaid oedd i ni fynd am ochr allan y trac ble roedd yna fan sefyll i'w gael bob hyn a hyn gyda sawl ymwelwr wedi eu gwasgu gyda'u gilydd er mwyn gadael i'r tren fynd heibio.
Rydym erbyn nawr wedi dechrau amseri ein hymweliadau a threfi Thailand yn well. Tra ar y cychwyn roeddem ond yn methu dathliadau gwahanol wylau mewn sawl tref (naill a'i yn gadael yn rhy gynnar neu yn cyrraedd yn rhy hwyr) mi'r oeddem wedi cael amser da yng Ngwyl Ayuttaya ac eto nawr yn Kanchanaburi wrth gyrraedd ar ddiwrnod olaf eu Gwyl. Fe aethom i sioe Golau a Sain gyda'r hwyr ar lan yr afon ger y bont a oedd yn ail-adrodd hanes adeiladu'r bont. Er nad oeddem yn gallu deall beth oedd yn cael ei ddweud, wedi'r cwbwl Gwyl i'r brodorion ydoedd, nid oedd yn anodd i'w ddilyn ac mi'r oedd yn wych gyda'r tan gwyllt mwyaf swnllyd, golauiadau lliwgar ac ambell i stynt arbennig.
Ar yr ail ddiwrnod fe ymwelon ni a un o dair mynwent arbennig ar gyfer y carcharorion rhyfel a fu farw wrth adeiladu'r bont - roedd bron i saith mil bedd yno i gyd. Roedd y fynwent yn heddychlon, syml a phrydferth, fel dylai fod, ac o'r ychydig amser y buom ni yn cerdded ogwmpas daethom ar draws pedair bedd gyda arysgrifiau Cymraeg arnynt. Yn hwyrach daethom nol a gadael blodau ar y bedd 'Gymraeg' cyntaf a welom. Nesa i'r fynwent roedd yna amgueddfa ble cawsom ein haddysgu ymhellach o'r hyn ddigwyddodd. Profiad sobor ydoedd ond roedd teimlad o obaith yno hefyd gan nad oedd y meirw wedi cael eu anghofio na felly y creulondeb mawr a fu, a ddylai fod yn wers i ni gyd.
Ar ein diwrnod olaf roeddwn wedi bwcio trip yn ymweld a :
1) Rhaeadr Erawan - prydferth iawn gyda fwy na saith lefel iddi. Cawsom nofio yn un o'r pyllau ble roedd y pysgod yn dod lan atom os bydden yn llonydd yn rhy hir ac yn dechrau niblo arnom. Teimlad rhyfedd a difyr wrth deimlo'r pysgod yn ein ticlo.
2) Ar ol cinio aethom i Hellfire Pass - un o'r mannau mwyaf anodd roedd rhaid twrio trwyddi wrth i'r rheilffordd cael ei hadeiladu. Nid yw'r rheilffordd yn rhedeg trwy'r man yma bellach ond cawsom y fraint o gerdded trwyddi cyn ymweld a amgueddfa arall a oedd wrth law.
3) Cawsom fynd ar drip ar y tren ei hun ond nid dros y bont. Nid oedd yn drip hir iawn ond cawsom weld ychydig mwy o'r cefn gwlad prydferth.
4) Diwedd y trip oedd ymweliad arall o'r bont (ble wnaeth y mozzies ymosod unwaith eto ar goesau Nia!).
Sunday, 30 December 2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
93772.....45484
Post a Comment