Un o'r uchafbwyntiau, os nad yr uchafbwynt, o'n cyfnod ym Mherth oedd ein hymweliad â Ynys Rottnest neu 'Rotto' fel alwai'r brodorion e. Mae'r ynys 19km i ffwrdd ar gwch o Freemantle ac mae'n 11km o hyd a 4.5km ar ei man lleta. Gwarchodfa bywyd gwyllt yw ac mae'n le poblogaidd iawn gyda nifer fawr o pobl Awstralia yn gwario ei gwyliau haf yno. Mae gan yr ynys ddwsine o draethau a baeau bychan o'i hamgylch gyda'r bywyd gwyllt mwyaf lliwgar yn, ac ar waelod y môr. Roeddwn yn nofio mewn môr o liw wrth ddeifio i lawr rhwng yr amrywiaeth eang o bysgod, coral a gwymon. Roeddwn yn colli fy hun yn yr amgylchfyd rhyfeddol a chyfoethog yma a bum yn y dwr am oriau i gyd yn darganfod bae ar ôl bae.
Roedd gan pob un o'r traethau dywod melyn-wyn a môr gwyrdd-las - nid yw'n bosib blino gweld y traethau hyfryd o'r math yma. Bydden yn teithio o draeth i draeth ac o fae i fae ar fws oedd yn amgylchynnu'r ynys. Yn un o'r baeau tawelaf ble nad oedd yr un enaid onid am Nia a finne deithym ar draws bysgodyn a elwir yn Pufferfish neu fel galwai'r brodorion nhw 'Blowies'. Ni wnaeth y pysgodyn yma nofio i ffwrdd yn syth pan deithym ar ei draws a felly cefais gyfle i'w ddilyn yn dawel bach a chael hwyl yn ei wylio. Bum yn gwneud hyn am sbel fach tan i mi sylweddoli fod y pysgodyn yma yn fy nilyn i gymaint ac yr oeddwn yn ei ddilyn ef. Wrth i mi arnofio yn y dwr bas gyda'm dwylo ar lawr y môr daeth y Blowie i fyny ataf a nofio reit o dan fy nhrwyn a rhwng fy mreichiau. Yna ddechreuodd gnoi ar ewyn fy mys bach ac mi'r oeddwn yn meddwl fod hyn yn ddigri iawn ... tan i'r diawl bach ddechrau cnoi ar man fwy tender ar ochr fy mys. Dwi ddim yn gwybod pwy gafodd y sioc fwyaf, fi o'r poen sydyn yn fy mys neu y Blowie o'r ffys fawr gwnes i. Ond dwi ddim yn credu i mi rhoi'r pysgodyn off y syniad o cael fy mys fel tamaid i fwyta oherwydd mewn munud neu ddau roedd e'n ôl ... gyda'i frawd mawr yn ei ddilyn ac mi'r oeddwn yn cael fy stelcian o ddau gyfeiriad. Amser i fi adael a ymweld â'r bae nesaf.
Hefyd ar Ynys Rotto gellir gweld Quokkas. Math o gangarw bach ydynt tua maint cath cyffredin ac ond mewn ychydig mannau prin yng ngorllewin Awtralia y maent yn bodoli bellach ac maent yn cael eu gwarchodi yma ar Ynys Rotto. Daethom ar draws sawl un ohonynt ac mi'r oedd un yn ddigon caredig i sefyll yn llonydd reit o'n blaenau tra ein bod yn cymryd lluniau o fri ohono. Rîl poser yn fy marn i!
Friday, 29 February 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment