Monday, 4 February 2008

Dyna i chi drên hir … a siwrne hyrach byth

Yn gyntaf dyma ychydig o feithiau am drên yr Indian Pacific:
Mae’r trên yn cysylltu un ochr o Awstralia (Sydney) gyda’r llall (Perth) ac yn cwrdd ogwmpas y canol yn Adelaide. Mae yn 4,352km o hyd rhwng Sydney a Perth a tua 2,550km rhwng Adelaide a Perth, y rhan roedd Nia a finne yn ei drafaelu arno. Dechreuom ein taith am tua hanner wedi chwech ar y nos Iau a chyrraedd Perth ychydig wedi naw bore Sadwrn. Taith o 38 awr a hanner gyda cwpwl o ‘stops’ bach clou mewn trefi ynysedig yng nghanol yr ‘outback’o’r enw Cook (lle bach iawn) a Kalgoorlie (mae llawer o aur yno mae’n debyg ond ni weles i ddim ohono yn anffodus!). Roedd y siwrne yn mynd a ni drwy anialwch Awstralia gan gynnwys y Nullarbor Plains ble geir yr ymestyniad hyraf o drac syth yn y byd - yn 476km o hyd (dychmygwch gyrru’r darn yna mewn car!). Wel, dyna ddigon o ffeithiau i chi cyn i chi gyd gwmpo i gysgu.

Yn nosbarth y Kangarw Coch roeddem, neu’r ‘Cattle Class’ fel wede Nia, a felly roeddem yn eistedd a chysgu yn yr un sedd drwy gydol y siwrne. I fod yn deg, mi’r oedd y seddi yn ddigon cyfforddus gyda digon o le i’r coesau. Os mai ar awyren yr oeddem yn trafaelu yna bydden ni yn y dosbarth busnes o leiaf os nad y dosbarth cyntaf ond gan nad wyf erioed wedi trafaelu mewn sut moethusrwydd ni allaf gymharu yn go iawn. Yr unig siom cefais oedd nad oedd gan y seddi sgriniau adloniant, yn wir doedd dim un o’i fath o fewn ein cerbyd. Chwalwyd fy ngobaith o wylio ffilm ar ôl ffilm am gyfnod ein taith. Ar yr ochr orau, roedd yna gerbyd ar y trên a oedd yn gwasanaethu bwyd a diod a felly roedd yna ddigon o gwrw ac ambell baned o de i’w gael.

Ffilm neu dim ffilm doedd dim byd gwell na edrych allan drwy’r ffenestr a gweld byd hollol unigryw yn mynd heibio. Nid oedd yn newid llawer ond mi’r oedd rhywbeth digon hypnotig ac arbennig amdano, milltir ar ôl milltir. Cawsom weld bob nawr ac yn y man ambell i gangarw a walabi, carafan o gamelod gwyllt, teulu o emus a nifer o eryrod - y Wedge-tailed Eagle – aderyn ysglyfaethus mwyaf Awstralia ac un o’r mwyaf yn y byd. Ar ben hyn i gyd cawsom ddau fachlud haul hyfryd.

Erbyn diwedd y daith roedd y ddau ohonom yn ddigon blinedig. Balch iawn roeddem i weld Gwen, ein ‘hostess with the mostest’ ym Mherth, yn disgwyl amdanom ar y platform wrth i’r trên dod fewn i’r orsaf ar ddiwedd ein taith, yn chwifio’r fflag Gymraeg a gewn fawr i’n croesawi.

O.N. Gyda llaw, dwi'n dal i ddathlu Y Canlyniad. Nid wy'n gofyn bywyd moethus ...

2 comments:

Andrew said...

aur y byd, na'i perlau man......
Dyna beth oedd canlyniad, dwi dal yn meddwl bod fi'n breddwydio!! HeHe
Sut wyt ti? Mae'n edrych o'r lluniau bod chi'n cael amser bendigedig.
Hwyl am y tro,
Andrew

Chrissy said...

Can't wait for my pressie, Ni, Down to the nitty gritty, how many pairs of shoes will I be able to get with it? That many oh Thank you!!