Friday, 7 March 2008

Taith Ogwmpas De Orllewin, Gorllewin Awstralia

Cyn i ni gyrraedd Perth roedd Gwen wedi bod yn frysur iawn yn gwneud trefniadau ar gyfer taith ogwmpas De Orllewin, Gorllewin Awstralia. Cawsom drip o chwech diwrnod, pump noswaith yn ymweld â, ac aros gyda teulu a ffrindiau Gwen.

Arosom y noswaith gyntaf gyda Peter a Daphne ar eu ffarm Bundaleer yng Nghatanning. Ffarm fawr cnydau a defaid, 13,000 erw ydyw a chawsom y ‘grand tour’ gan Daphne yn ei ute (‘utility vehicle’) a chael hel llwynog daethom ar ei draws drwy ffrwcs un o’u caeau anferth cyn i’r llwynog cael y gorau a’n colli. Cawsom farbeciw gyda’r hwyr a chael clywed hanes a gweld lluniau o’u teithiau ar ddraws Awstralia. Maent yn teithio gyda dau gwpwl arall ac yn aml yn trafaelu hyd at 15,000km dros cyfnod o fis i chwech wythnos – y rhan fwyaf ohono yn gyrru drwy ganol anialwch Awstralia.

Arhosom yr ail a’r drydedd noswaith gyda Kevin, brawd Gwen, ym Mount Barker. Mae Kevin yn byw yn y wlad, drws nesaf i’r ffarm y cawsant eu dwyn lan arni a felly cawsom ymweld a’u cartref cyntaf hefyd. Fe’r aeth Kevin a ni am drip i Albany (y brif dref agosaf i Mount Barker) a chawsom weld pa mor wahanol yw’r wlad reit lawr yn ne Gorllwein Awstralia i gymharu a gweddill y dalaith. Maent yn cael tipyn fwy o law yma a felly yn lle y tirwedd melyn sych roeddem yn arfer ei gweld mi’r oedd hi’n dipyn yn wyrddach, llawer debycach i gartref. Ymwelsom a nifer o lefydd gan gynnwys Mount Clarence ble mae’r ANZAC Memorial yn edrych i lawr dros Albany a’i chyffiniau; Emu Point, The Gap a’r Natural Bridge tirwedd arbennig ar hyd yr afordir; a hefyd Whaleworld. Whaleworld oedd yr orsaf olaf ar waith yn Awstralia ar gyfer prosesu morfilod wedi’u hela tan iddo gau yn 1978 ac erbyn hyn mae wedi ei droi i fewn i amgueddfa ar hanes yr orsaf ac ar hela morfilod. Roedd yn le digon arswydus ar yr un llaw ond yn ddiddorol dros ben ar y llaw arall ond mi’r wyf yn falch iawn nad yw’r orsaf yn cael ei ddefnyddio bellach am ei bwrpas gwreiddiol a nad yw Awstralia yn hela morfiloed bellach. Wrth drafaelu ogwmpas Albany daethom ar draws nifer fawr o belicans, fwy o gangarws (dydym ddim yn blino gweld y creaduriaid hyfryd yma) a hefyd un skink bach du – math o fadfall (lizard) yw ond fod ei groen yn ymweld yn feddal. Mae rhaid dweud fod Kevin, neu Kev fel roeddem yn ei alw, yn foi a hanner, bachan ffein iawn a dros y dwy noswaith buom yn aros gyda’g ef darganfuom ei fod yn gwc a hanner hefyd. Cawsom wledd o brydiau gyda’r hwye gan gynnwys cig oen wedi ei rhostio gyda’r ‘full works’ heb anghofio frecwast wedi ei goginio bob bore (wyt ti’n cymryd sylw Nia?).

Fe arhosom ar ein dwy noswaith olaf ym Musseldon gyda Dave a Cissy, a Matey a Jess, y ddau gi. Mae cartref Dave a Cissy yn edrych allan dros warchodfa natur ac mi’r oedd ganddynt olygfa bendigedig o’u gardd cefn gyda’r holl amrywiaeth o adar i’w gweld ac ar rhai adegau o’r flwyddyn byddent yn gweld cangarws hefyd. Tra ym Musseldon gwnaethom ymweld a nifer o lefydd cyfagos fel tref Margaret River, canolfan gwin byd enwog ond gwell byth mae Margaret River Chocolate Company yno hefyd – gyda samplau am ddim!!! Rhaid oedd i Nia a Gwen fy llusgo allan o ‘na. Ymwelsom â Bootleg Brewery a rhaid oedd cael blasu pob un o’i diodydd cyn penderfynnu pa un oedd orau. Buom hefyd yn Canal Rocks a phentrefi bychain Yallingup a Dunsborough am olygfeydd arfordirol arbennig a mynd i nofio ym Munker Bay. Nôl ym Musseldon cerddom ar hyd y pier – yr ail pier mwyaf yn y byd ryw 1.7km o hyd ac ym mhen pella’r pier roedd yr Underwater Observatory ble roedd modd gweld y bywyd môr cyfoethog roedd yn bodoli o dan y pier ei hunan gan gynnwys yr haig fwyaf o bysgod Yellow Tail (dwi’n credu mae dyna beth oeddent yn cael eu galw). Cawsom farbeciw gyda Dave a Cissy i swper ac un arall i frecwast! - a chael llawer o hwyl yn eu cwmni yn ogystal â’r cwn, yn enwedig Matey, ci mawr cryf Dave a oedd mor gyfeillgar ac yn mwynhau rhedeg ar ôl pêl.

Wrth drafaelu o un lle i’r llall galwom a chwrdd â chwiorydd Gwen, sef Margaret yn ei gwinllan yn Wandering Brook ac Audrey a’i gwr Bill – dau sy’n dwli ar griced. Ymwelsom a’r Valley of the Giants ym Mharc Cenedlaethol Walpole-Nornalup. Y cewri yw’r goedwig o goed Karri a Tingle tal iawn ac fe gerddom ar hyd y Tree Top Walk sy’n codi bron i 40 medr uwchlan llawr y goedwig uwchben brigau’r coed. Hefyd yn ymwneud â choed fe’r aethom i weld y Gloucester Tree ym Mhemberton. Coeden o math Karri yw ac mae’n anferth o beth yn sefyll 61 medr o daldra. Cafodd y goeden ei begio yn 1946 er mwyn ei defnyddio fel twr gwylfa ar gyfer ‘bushfires’. Erbyn hyn mae dros filiwn o fobl wedi ymdrechu i’w dringo i’r copa ac deallais pam wedi i mi gyrraedd y brig gyda golygfeydd bendigedig yn fy nisgwyl yn ymestyn am filltiroedd uwchlaw’r goedwig.

I gyd, cawsom groeso cynnes dros ben gan deulu a ffrindiau Gwen a diolch i bawb am eu cyfeillgarwch a’i haeliondeb. Cawsom llawer o sbort a chael gweld rhai o olygfeydd a rhyfeddodau gorau sydd gan Gorllewin Awstralia ei gynnig.

No comments: