Friday, 29 February 2008

Y Pinnacles

Un o'r mannau cyntaf yr aeth Gwen a ni i ymweld â oedd Y Pinnacles, ryw tair awr a hanner i'r gogledd o Perth. Cawsom daith pleserus i fyny a chael gweld fersiwn Gorllewin Awstralia o'r 'bush' gyda Gwen yn pwyntio allan y gwahanol goed, blodau a phlanhigion ar y ffordd yn ogystal â'r bywyd gwyllt - wel, y cangarws beth bynnag. Ond arbenigedd Gwen yn fy marn i yw'r adar. Mi'r oedd yn medru enwi bron pob un math o aderyn yr oeddem yn eu gweld - dyma'r math o beth rydych yn ei ddysgu pan cewch eich dwyn lan ar ffarm fel y cafodd Gwen.

Roedd Y Pinnacles yn rhywbeth hollol wahanol ac unigryw. Cyfluniad calchfeini ydynt wedi'u llunio mewn i golofnau yn codi allan o'r anialwch - siâp tebyg i 'stalagmites'. Maent wedi eu creu ers miloedd o flynyddoedd ac mae yna filoedd ohonynt, pob un yn wahanol gyda rhai yn ymestyn i daldra o 4 medr. Mae rhywbeth digon spwci amdanynt, yn sefyll fanna yng nghanol yr anialwch fel petai fod pob un yn eich gwylio ond yn dweud dim gyda dim ond swn y gwynt yn eich clustiau. Roeddent yn fy hatgoffa rhywfaint o'r fyddin terracota darganfuwyd yn Tsieina. Pob colofn yn filwr yn sefyll i sylw ar wasgar ar faes y gâd. Golygfa naturiol rhyfeddol a bendigedig.

Wrth gwrs gan ein bod yn trafaelu mor bell rhaid oedd dod a phicnic gyda ni ac fe'i fwynhawyd ger Kangaroo Point ger y môr a yna wedi mwynhau Y Pinnacles galw yn Hangover Bay (na, doeddwn heb fod yn yfed y noswaith gynt ... wel, dim llawer ta beth) er mwyn nofio mewn bae a neb yno o gwbwl ond y tri ohonom. Neb, hynny yw, tan i bedwar beic cwad droi lan yn swn i gyd i ddinistrio ein heddwch ond fe'u diflanwyd dros y twyni tywod yr un mor gloi ac yr ymddangosant. Cyn troi am thref fe alwon mewn i dafarn yn y pentref cyfagos, Cervantes, am gwpwl o 'ice cold Aussie beers' wedi mwynhau diwrnod yn edmygu y byd natur ar waith yng ngwres poeth y dydd.

No comments: