Mae Perth a Talaith Gorllewin Awstralia yn wlad o draethau, picnics a heulwen. Arferiad Gwen, ein 'hostess with the mostest', ac wrth reswm ein harferiad ninnau hefyd tra ym Mherth oedd codi bob bore, cael brecwast bach cloi ac yna bant i'r traeth erbyn tua deg o'r gloch. Byddwn yn cerdded fyny'r traeth am ryw hanner awr neu mwy ac yna dychwelyd i'r man cychwyn cyn mynd i'r môr am nofiad bach hyfryd i'n cwlo ni lawr. Roedd y traeth yn fendigedig gyda tywod gwyn a môr tawel wyrdd-las yn ymestyn am filltiroedd. Wrth gerdded fyny'r traeth bydden yn mynd trwyddo rhan wedi ei neilltuo ar gyfer ymarfer cwn a dyna ble fyddai dwsine ohonynt yn rhedeg yn wyllt ar hyd y lle. Rhai yn nofio yn y môr ac yn pallu dod allan, rhai yn gwrthod mynd i'r môr ac yn cael eu cario i fewn, eraill yn carlamu ar ôl pêl neu ffrisbi neu ond yn rhedeg ar ôl eu gilydd. Roedd yn dipyn o sbort jyst yn eu gwylio ac gall fod yna o leiaf gwpwl o gannoedd ohonynt ar y penwythnos. Byddai Rosie, Jess, Sadie, Pero a Cassie (cwn Anti Mags) wrth ei boddau yna. Fi'n siwr byddai Jess wedi bachu pob pêl oedd ar y traeth os iddi gael hanner cyfle. Jyst ochr arall i'r rhan y cwn, roedd yna rhan wedi ei neilltuo ar gyfer y ceffylau. Roeddent yn fwy sidêt na'r cwn gyda dim o'r rhedeg gwyllt diolch byth neu falle bydde ni ddim yma nawr i adrodd yr hanes. Roeddent yn hapus i rolio yn y tywod neu nofio yn y môr. Roeddwn bob amser yn mynd a'n 'goggles' pan yn mynd i'r traeth er mwyn medru snorclio yn y dwr a chael gweld ryfeddodau'r môr. Roedd yna amrywiaeth o bysgod i'w gweld hyd yn oed yn agos i'r lan ac yna byddai rhaid i mi ddeifio i lawr i wely'r môr er mwyn casglu ambell gragen pan fod Nia yn dewis cael sesiwn o'u casglu.
Rhaid dweud mae'n fywyd braf yng Ngorllewin Awstralia ac mi'r oedd hi'n hawdd codi bob bore pan fod ymweliad i'r traeth yn ein disgwyl. Ac nid hwn oedd yr unig draeth i ni ymweld â. Byddai'r tryncs yn cael ei bacio bob tro byddai yna hanner cyfle y byddwn yn mynd yn agos i'r môr. Un tro aethom am swper ar lan môr - pysgod a sglodion wrth gwrs - ond rhaid oedd mynd i nofio yn gyntaf. Mwynhau y pysgod ar sglodion wedyn a'i olchu i lawr â chwpwl o poteli oer o gwrw Awstralaidd wrth wylio'r haul ym machlyd braf.
Mae gan pobl Gorllewin Awstalia y nac o baratoi picnic mewn beth dim o amser. Maent yn medru twli popeth at eu gilydd mewn eski ('coolbag') a bant a ni i le bynnag. Os bydden ni'n mynd am drip i unrhywle yna byddai picnic yn orfodol.
Er mwyn mwynhau yr holl bicnics a'r traethau rhaid oedd cael tywydd da ac mi'r oedd gan Perth hyn mewn digonedd. I ddweud y gwir yn onest (fel wede mamgu) dwi ddim yn cofio i ni cael glaw o gwbl tra ym Mherth. Cawsom ddigonedd o heulwen a digonedd o wres poeth. Roedd yn fwy tebygol i ni cael gwres yn y 30au uchel neu hyd yn oed yn y 40au na dim a pob diwrnod pryd byddai'r gwres yn uchel bydde ni'n gobeithio y bydd y Freemantle Doctor yn galw. Hwn fyddai'r awel môr goddefol hyfryd byddai'n galw gyda'r pnawn o gyfeiriad tref Freemantle. Ond os na byddai'r awel yma'n dod bydd hi'n teimlo'n drymedd reit a byddai rhaid cau pob drws a ffenestr i'r ty er mwyn ceisio cadw'r ty mor cwl a phosib. Does dim angen dweud i Nia a finne ddal dipyn o liw'r haul yn ein amser ym Mherth a dwi dal methu dod dros fod y lliw ar dop fy nhraed yn wahanol reit i'r lliw ar fy ngwadnau.
Saturday, 23 February 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Hi you two. Off skiing again tomorrow for a long weekend, Anthony is 50 on sunday. Tracey can't make it this time though. Everyone ok here, we all survived the 5.4 earthquake, poor mam thought she was having a heart attack, takes more than an earthquake to wake me up. Gatland doing a great job with our team, can we go all the way? i'll never forget that night in Cardiff when we won the grandslam, shame i dropped the phone in the toilet and lost that classic video. Talybont won 1st game 6-0 against Llanrystyd, seconds struggling for a full team. No second team next season whatever happens. Keep having fun. Don't forget mothers day on sunday. Cariad mawr, Caz, T.J a Mam
Post a Comment