Da iawn yr hogiau. Dau allan o ddau. Gallaf ddod yn gyfarwydd a'r ennill yma.
Buom yn cerdded ogwmpas Katoomba yn oriau man y bore yn gobeithio dod ar draws rhywle oedd yn darlledu'r gem ond yn anffodus cawsom ddim lwc. Mae'r gemau i gyd yn cael eu darlledu ar sianel newydd mae'n debyg a doedd dim un o'r tafarnau wedi tanysgrifo i'r sianel yma eto. Derbyniom y newydd da o lawenydd mawr gan Brian ar fore Sul - Gwyddel yw sy'n gweithio yn y dderbynfa yn yr Hostel yng Nghatoomba. Roedd e'n falch iawn o'r canlyniad yr wythnos gynt. Yn anffodus dwi heb weld llawer o Saeson i rhwbo halen i'r briw eto, ond yw gweld dim Saeson ddim yn golled!
Edrych ymlaen i'r gem yn erbyn yr Eidal nawr a gobeithio bydd Wncwl Alun yn gallu sortio allan ein bod yn medru gwylio'r gem yn rhywle.
Tuesday, 12 February 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Dim problem i'r crysiau cochion. Gatland yn digon dewr i wneud newidion mawr i'r tim yn y gem. Peel a Steven Jones yn dechrau yn erbyn yr eidal. Champions 2008?
Don't worry Ni, will take lots of photos of Dwayne from my front row seat next Saturday!!!
where's Ni's update?
xx
Post a Comment