Sunday, 3 February 2008

Gwin a Chriced yn Adelaide

Cyrrhaeddom Adelaide am hanner wedi chwech y bore yn flinedig wedi cael ond ychydig o gwsg ar y bws dros nos o Melbourne ac oriau yn rhy gynnar cyn medrwn tsiecio i fewn i’n hostel. Diolch byth bod hostelau YHA yn dda iawn ac yn gadael i ni ddefnyddio ei cyfleusterau er nad oedd ein hystafell yn barod. Yn ogystal â hyn, mae ganddynt system dda yn ei ceginau lle gall pobl sy’n symud ymlaen adael eu bwydydd sydd dros ben ac heb eu orffen ar gyfer eraill i’w ddefnyddio. Gelwir y system yma yn ‘Free Food’. A felly roedd modd i ni gael frecwast o fwsli a phaned o de gyda ond yr angen i ni brynnu llaeth o’r dderbynfa.

Wedi brecwast, a chyn i ni syrthio i gysgu ar y soffau, gadawsom ein bagiau yn y storfa a bant a ni i ddarganfod Adelaide. Yn gyntaf daethom ar ddrwas Llyfrgell Talaith De Awstralia a oedd yn dangos arddangosiad Don Bradman. Ef oedd cricedwr gorau Awstralia os nad y byd i gyd ac yn wir wrth ddysgu am ei yrfa roedd yn bendant yn ddraenen yn ochr tîm Lloegr. Hefyd yn y Llyfrgell fe ddarganfuom y’i bod hi’n bosib i ni wneud defnydd o gyfleusterau cyfrifiadurol y llyfrgell yn rhad ac am ddim ac fe wnaethom dipyn o hynny tra yn Adelaide.

Gyda’r hwyr aethom am dro i fyny i man ucha’r dref … wwwps, dinas dwi’n ei olygu (cefais fy nghywiro ar y mater yma o fewn pum munud o gyrraedd Adelaide), er mwyn gweld yr haul yn machlud. Yno roedd cerflun o Matthew Light, y dyn wnaeth gosod allan cynllun y ddinas. Roedd hi’n noswaith hyfryd iawn, tipyn mwy ffres i’r hyn roeddem yn gyfarwydd â yn Melbourne. Cerddom nôl heibio’r Adelaide Oval ac yna ar hyd yr afon Torres ble cawsom ‘close encounter’ bach digon cyfeillgar gyda cwpwl o elyrch du.

Trip i lan môr ac i le o’r enw Glenelg gwnaethom y diwrnod canlynol. Teithiom yno ar dram a oedd yn rhedeg o ganol Adelaide. Roedd yn le bach braf gyda pier ac mi’r oeddwn yn falch ohono wrth gysgodi o’i tano tra roedd Nia yn ffrio ei hun yn yr haul. Roedd dwr y môr yn gynnes neis a’r tonnau yn fiwiog a chryf. Yn anffodus roedd yna hefyd awel gref ac erbyn ganol y pnawn roedd yn chwipio’r tywod i bob man ac nid oedd yn bleserus bod yno bellach, felly bant a ni nôl i’r ddinas.

Tra yn Adelaide fe bwcio ni drip ar y Groovy Grape - trip i ymweld a nifer o winllanau yn y byd enwog Barrosa Valley. Fi’n gwybod beth ‘da chi’n ei feddwl ond byddech chi ddim yn ymweld a Paris heb fynd lan y Twr Eiffel na chwaith Efrog Newydd heb ymweld a cherflun Liberty. Felly, ar drip blasu gwin yr aethom. Yn ffodus (neu’n anffodus os yr oeddech yn disgwyl yfed gwin am naw y bore) roedd yna gwpwl o lefydd di-alcohol ar y deithlen. Ymweld a ffatri tegannau o bren oedd y stop cyntaf ond welsom fawr dim o’r ffatri, na’r siop na hyd yn oed y caffi gan i’r ddau ohonom cael ein denu i’r ‘animal sanctuary’ a oedd yn rhan o’r un lle. Roeddem yn gallu cerdded i fewn i’r gorlan ble roedd yna kangarws, wallabies, pain, hwyed a nifer fathau o adar eraill i gyd yn byw gyda’u gilydd gyda emus yn y gorlan nesaf. Cawsom llawer o hwyl yn bwydo’r anifeiliaid, yn cerdded yn eu mysg ac yn tynnu nifer fawr o luniau gyda’r camera. Roedd yn brofiad gwych ac annisgwyl. Yr ail stop cyn y gwin oedd argae sy’n cael ei alw’n Whispering Wall. Mae’n debyg eich bod yn medru sefyll ar un ochr y wal enfawr yma a chael sgwrs cyffredin gyda person sy’n sefyll reit pen draw ar yr ochr arall, ryw 140 o fedrau i ffwrdd. I ddechrau credais mai ryw fath o ‘gimmick’ ydoedd, ond na, roedd yn hollol wir a chafodd Nia a finne sgwrs fach â’n gilydd yng Ngymraeg. Tybed a’i y tro cyntaf i’r wal glywed y Gymraeg? – ynta na. Mae’n debyg mae rhywbeth i wenud â sut mae tonnau swn yn trafaelu ar hyd troad y wal sy’n achosi’r ffenomena yma. Wrth gwrs, fi oedd rhaid cerdded i ben arall y wal tra roedd Nia yn aros ger y pen agosa i’r bws.

Ar ôl y ddau atyniad yma roedd y ‘serious stuff’ yn dechrau. Ymwelsom a phedair winllan i gyd yn cael blâs ar ddwsine o winoedd:
1. Jacobs Creek – neis iawn yn arbennig y Reisling a’r Shiraz Reserve.
2. Vine Crest – reodd pawb ar y trip yn cytuno mae hwn oedd y winllan â’r gwin gorau.
3. Richmond Grove – rhywfaint yn siomedig ydoedd y gwin yma ond cawsom taith ogwmpas y winllan ac ar ôl y blasu cawsom wledd o farbeciw wedi ei baratoi gan Tom, ein gyrrwr bws. Er fod Tom wedi byw rhan fwyaf o’i fywyd yn Awstralia roedd ganddo acen Wyddeleg gryf o hyd.
4. Bethany – roedd pethau yn llai ffurfiol yma ac roeddem yn cael dewis pa winoedd roeddem am flasu. Neis iawn yma hefyd.

Os oes un peth sy’n gallu cael grwp o fobl sy’n ddieithr i’w gilydd i gymdeithasu yna gwin, neu i fod yn fwy cywir, alcohol yw hynny. Digon tawel roedd yr hwyl ar y bws peth cyntaf y bore ond rhaid cofio roedd pawb wedi codi’n gynnar gyda’r taith yn cychwyn am gwarter i wyth. Erbyn i ni orffen ymweld â’r winllan gyntaf roedd y cymdeithasu o fewn y grwp wedi cychwyn o fri ac mi’r oedd yn dal i fod mewn ‘full swing’ tan i ni ddringo nôl ar y bws am y daith olaf nôl i’r ddinas ar ddiwedd y pnawn. Dyna pryd ddechreuodd effaith yr holl win a’r cinio mawr gicio i fewn a chwsg ddaeth dros bron pawb. Cawsom dipyn o sbort ar y trip yn enwedig yng nghwmni Rowan, Niamh a Ffiona o Iwerddon, Esmeralda o’r Iseldiroedd a Chymro o’r enw Peter sy’n wreiddiol o Benybont-ar-ogwr.

Mi’r oedd trip y Groovy Grape yn ddiwrnod cyfan ond mi’r oedd gyda ni amser gyda’r hwyr i wneud rhywbeth hollol newydd. Fe fynychom gêm criced proffesiynol am y tro cyntaf erioed. Gêm Twenty/20 ydoedd rhwng talaith Gorllewin Awstraliad a talaith De Awstralia a chwaraewyd yn yr Adelaide Oval. Roedd hi’n noswaith hyfryd a chawsom ein hadlonni gan y criced, nid falle o’r safon gorau, ond mi’r oedd hi’n brofiad mwynhaol gyda torf golew o with mil a hanner mewn stadiwm hyfryd iawn.

Ar ein diwrnod olaf yn Adelaide rhaid oedd paratoi ar gyfer ein trip mawr yng ngroes hanner Awstralia yn teithio ar drên yr India Pacific. Rhiad oedd pacio ar ei gyfer a prynnu a paratoi picnic a wedyn treipsio ar hyd y siopau i brynnu bobi bilo i wneud ein siwrne hir rywfaint yn fwy cyfforddus ac i’n helpu gysgu’r ddwy noswaith y byddwn ar y trên. Ond mi’r oedd gyda ni ychydig o amser sbâr i ymweld âg Amgueddfa De Awstralia i gymryd fewn ychydig o ddiwylliant cyn bod neb yn fy nghyhuddo mae’r unig ddiwylliant dwi’n ei fwynhau yw’r math sy’n ymwneud â alcohol! Yna gyda’r hwyr, bant a ni i’r orsaf trên ar gyfer ein taith dirfawr.

No comments: