Onid am yr adloniant sy'n cael ei ddarparu ar awyrennau, nid oeddwn wedi gweld ffilm ers gadael gartref. Newidiwyd hyn i gyd tra ym Mherth. Yn gyntaf, ar ddiwrnod enwedig o boeth, fe benderfynom yn lle dioddef y gwres llethol, roeddem am fynd i'r sinema er mwyn mwynhau yr 'air-conditioning' ... o ie, ac i weld ffilm hefyd. Fe'r aeth Gwen a finne i wylio'r Hollywood blockbuster 'American Gangster' tra yr aeth Nia i wylio '27 Dresses' (gwir 'chick flick').
Wedyn, yn ystod ein cyfnod ym Mherth, roedd yna Wyl Ffilmiau Rhyngwladol yn cael ei chynnal ac mi'r oedd yn draddodiad gyda Gwen a rhai o'i ffrindiau i fynd yn wythnosol ar y Sul. Ond nid dim ond troi lan i sinema cyffredin, prynnu Cornetto a gwylio'r ffilm cyn dychwelyd adref gwnaent. I ddechrau byddem yn troi lan ryw cwpwl o oriau o flaen llaw gyda phicnic mawr mewn llaw a mwynhau rhannu bwyd hyfryd, cwpwl o wydrau o win a sgwrs ddiddorol mewn amgylchedd siriol ger llyn ar campws Prifysgol Joondalup Pines. Byddwn wedyn yn gwylio'r ffilm mewn Sinema awyr agored - y tro cyntaf i'r ddau ohonom brofi ffilm yn yr awyr agored ac mi'r oedd yn wirioneddol braf. Ar ben y profiad hyfryd yma cawsom ein hadlonni dros y tair Sul y buom yno gan dri ffilm ardderchog. Gwelsom ffilm Almaeneg/Twrciaidd 'Edge of Heaven' - drama dda; Ffilm o Sweden "Heartbreak Hotel' - ffilm ddoniol ac yr oedd yn cyffwrdd â'r galon; a hefyd ffilm o Ffrainc ' Tell No One' - ffilm gyffroes a dwys. Mae'r profiad wedi bod yn agoriad llygad i mi a'r safon ffilmiau estron a chredaf gall llawer iawn o ffilmiau Holywood ddysgu tipyn wrthynt. Roedd gan pob un stori dda i'w ddweud gyda chymeriadau cryf heb orfod ddibynnu ar jyst fomiau a gynnau a 'special effects' i geisio adlonni'r gynulleidfa. Da iawn wir.
Friday, 29 February 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment