Ein stop olaf cyn dychwelyd i Sydney oedd y Mynyddoedd Glas (MG). Nid mynyddoedd ydynt fel mae’r enw yn ei awgrymu, ond llwyfandir (plateau) gyda ceunentydd (gorges) clogyrnaidd wedi ei herydu hyd at 760 medr o ddyfnder. Maent yn rhan o World Heritage Site gyda pharciau cenedlaethol a gwarchodfa chadwraeth yn cwmpasi anialdir naturiol hynod o hardd. Er gwybodaeth, cafwyd y MG eu henwi yn Carmarthen Hills yn gyntaf gan bachan o’r enw Arthur Phillips yn 1788 ond fe’i newidiwyd yn anffodus … gan ryw Sais ynta. Mae’r enw y MG yn dod o’r wawr las sydd i’w weld o bell dros yr ardal a chaiff ei greu o’r olew sy’n cael ei ryddhau gan y coed ewcalyptws.
Cymerodd hi drwy’r dydd i ni gyrraedd tref Katoomba yng nghanol y MG (hefan o Alice Springs i Sydney ac yna ar drên o Sydney) ac unwaith i ni gyrraedd gwnaethom ymholiadau yn syth ar ble allwn wylio gêm Cymru yn erbyn yr Alban. Cawsom ddim lwc yn anffodus er i ni grwydro ar hyd y dref wedi canol nos yn holi mewn gwahanol dafarnau. Rhaid oedd i mi setlo ar chwilio allan ar fore Sul oddi wrth Wyddel oedd yn gweithio yn dderbynfa’r hostel bod Cymru wedi cario’r dydd unwaith eto (dau allan o ddau – a feuddwn ni ddechrau breuddwydio am y Gamp Lawn eto?????).
Tra yng Nghatoomba trampo oedd ein bwriad a darganfod ychydig o’r ardal hyfryd yma. Fe gerddom filltiroedd ar hyd y clogwyn ar dop y llwyfandir, milltiroedd pellach i lawr ar waelod y ceunant a rhwng y ddau cawsom fynd ar y ‘cable car’ (gyda llawr clir iddo i weld syth o’n tano), i lawr ar y ‘skyway’ (math arall o ‘cable car’) ac yna nôl lan ar y ‘funicular railway’. Gwelsom olygfeydd bendigedig gan gynnwys y Three Sisters; buom yn cerdded mewn rhagor o ‘Aussie bush’ a gweld lyrebird rhwng y tyfiant trwchus; dysgom ychydig am yr hen ddiwydiant glo fu’n llewyrchu yno heb anghofio mwynhau picnic neu ddau.
Gyda’n amser yn Awstralia yn gyflym yn dod i ben, roedd un diwrnod ar ôl gennym yn Sydney … i dynnu’r holl luniau na chawsom y tro cyntaf gan i’r camera benderfynnu fynd ar streic. Yn ffodus ni wnaeth yr un digwyddiad ailadrodd ei hun a chawsom luniau da i brofi ein bod wedi ymweld a’r ddinas a’r ty opera a phont yr harbwr ac ati. Cawsom socad dda gan gawod o law am ein hymdrechion – un funud roedd hi’n braf reit ac yna o’r pellter gwelsom y storm yn dod amdanom cyn ei harllwys hi i lawr. Ar ôl cysgodi am sbelen wrth ymyl Mrs Macquarie’s Chair rhoddom y gorau i aros iddi hindda ac unwaith i ni cael gwlychad dda fe arbedodd y glaw ac roedd hi’n braf eto mewn chwinciad. A dyna oedd ddiwedd ail ran o’n taith rownd y byd wedi mwynhau bob munud. Seland Newydd sy’n ein disgwyl ac Wncwl Alun a Anti Ceri oedd ein stop cyntaf yng Nghristchurch.
Saturday, 12 April 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Rwy'n deall tipyn bach o'r Gymraeg on mae rhaid i mi defnyddio'r geiriadur. unfortunately, I've left it at home, so you'll have to put up with my sending lots of love and greetings in English - a narrow escape!
I hope you wil publish this amazing blog when you get back - Bill Bryson, take a back seat!
Really loving it, though it must take hours. Big hugs and squeezes, Myfanwy
Diolch am carden penblwydd wedi cyrraed heddi. Dwyn cadw hi nes 23cyn ei agor amser fyddw ni yn Fuerteventura. Dim comparison a blwyddyn rown y byd but hey it will do for me!! Cymrwch gofal enjoiwch mas draw, cariad mawr oddiwrth y pedwar o ni, y cwn hefyd a Dadcu a mamgu yn cofio ato chi. Neis siarad a chi diwrnod o blaen. XXX
Hello. This post is likeable, and your blog is very interesting, congratulations :-). I will add in my blogroll =). If possible gives a last there on my blog, it is about the Projetores, I hope you enjoy. The address is http://projetor-brasil.blogspot.com. A hug.
Post a Comment