Tuesday, 8 April 2008

Y Canol Coch

Gyda’r gorau sydd gan Awstralia i’w gynnig yw Y Canol Coch ac os fyddwch chi fyth yn Awstralia yna mae rhaid gwneud yr ymdrech i ddod i’r canol i weled ei ryfeddodau naturiol.

Buom yn y Canol Coch am bedair noswaith a gwario dwy ohonynt yn Alice Springs naill ochr i drip saffari 3 diwrnod, dwy noswaith yn trafaelu a chael gweld goreuon yr ardal. Roeddem yn trafaelu gyda chwmni roedd yn arbennigo mewn grwpiau bach a bant a ni am 6 y bore mewn bws cyfforddus iawn ac ond dwsin arall yn gwmni yn ogystal a Steve ein harweinydd.

Arhosom am seibiant mewn math o gaffi yng nghanol unman ac roedd gan y caffi nifer o anifeiliad mewn corlannau y tu allan. Roedd yno y casgliad arferol o gangarws, dingo bach dof ac oedd yn hoffi cael ei fola wedi ei diclo, rhai alpacas a nifer o gamelod. Cawsom gynnig i fynd am reid ar gamel a oedd yn tipyn o sbort tan i’r camel ddechrau fynd ar garlam o dan arweiniad ei ofalwr ac fe ddes i bant o’r camel â llais tipyn yn uwch na’r un oedd gennyf o flaen llaw. Gwrthododd Nia fynd ar y camel gyda rhyw esgus ei bod wedi cael go yn barod blynyddoedd yn ôl … ie, ie.

Ein ymweliad cyntaf oedd i Kata Tjuta (sy’n golygu ‘nifer o bennau/many heads’ yn Aborijini) neu’r Olgas. Mae tua 30km i ffwrdd o Uluru (Ayres Rock) ac wedi ei wneud i fyny o 36 o gromennau crwn gyda’r uchaf, Mynydd Olga, yn 200m yn uwch na Uluru (sy’n 546m). Aethom am dro yno yn y gwres poeth ond y peth gwaethaf oedd y blinkin pryfed. Bydde ni’n ddigon hapus yn ymdopi â’r gwres ond nid y pryfed. Roedd yna filiynnau ohonynt yn mynd ar fy nerfau hyd yn oed pan roeddwn yn gwisgo net dros fy mhen ac yn edrych yn ddel iawn … dim!

Symud ymlaen wedyn i weld yr haul yn machlud dros Uluru. Dyma’r ‘monolith’ fwyaf yn y byd ac mae’n safle bwysig a chysegredig i’r Aborijini. Anodd oedd credu ein bod ni yno yn cymryd i mewn y graig fawr byd enwog yma. Y mae yn ryfeddod ac mwynheiais bod yno yn gwylio’r haul yn machlyd drosto. Er nad oedd y machlud yn un arbennig ac er bod cannoedd o dwrisdiaid yno (blinking twrisdiaid!) mi roedd y profiad yn un arbennig.

Arhosom mewn gwahanol wersylloedd dros ddwy noswaith ein safari – yng nghanol yr anialwch roedd yna safleoedd a nifer fawr o bebyll sefydlog dau berson gyda chyfleusterau cymunol. Roedd hi’n dipyn o hwyl gyda pawb yn helpu eu gilydd i baratoi barbeciws a gwleddau eraill o fwyd, yn eistedd ogwmpas coelcerth yn rhannu storiau cyn mynd am ein gwelau. Penderfynodd y ddau ohonom y bydden yn cysgu allan o dan y sêr ac wedi i ni dynnu ein gwelau allan o’n pabell fe benderfynodd bron pawb arall dilyn ein esiampl. Hyfryd iawn oedd cael cwympo i gysgu o dan y sêr ac awel dwym yr anialwch yn chwythu drostom. Er rhaid oedd deffro am 4 y bore a fy mod wedi fy ngorchuddio gyda dwst coch yr anialwch roeddwn wedi cael noswaith dda o gwsg.

Oedd rhaid deffro’n gynnar er mwyn cael mynd yn ôl i Uluru a chael gweld yr haul yn codi. Penderfynom fwynhau’r profiad yma wrth gerdded o gwmpas waelod Uluru – taith o tua 8km. Dechreuom ein wâc mewn tywyllwch perffaith bron ac ni chymerodd hi’n hir i ni ddilyn y llwybr anghywir. Yn ffodus daethom ar draws yr un cywir a chawsom weld y graig enfawr yn dod i fywyd a gweld yn agos ei lliwiau cymysg, ei ffurfiau gwahanol a’i phresenoldeb cadarn. Gwelsom mannau cysegredig yr aborijini (ond dim yn rhy agos), eu gwaith celf ar y creigiau a phyllau dwr bywiocaol holl bwysig. Am tua canol dydd aethom nôl i’n camp cyntaf am ginio ac i bacio i fyny cyn mynd am ein hail gwersyllfa dros 300km i ffwrdd. Cefais eistedd ar flaen y bws gyda Steve oedd yn gyrru a chael sgwrs diddorol gyda’g ef. Kiwi ydoedd wedi byw yn Alyce Springs ers bron i 30 mlynedd a wedi gwneud sawl peth yn ei oes gan gynnwys cadw camelod.

Cawsom noswaith gynnar arall gan fod gennym ddechreuad cynnar yn ein disgwyl am y trydydd diwrnod yn olynol. Dechreuad cynnar er mwyn i ni cael brecwast a digon o amser i drafaelu i gyrraedd Kings Canyon jyst wedi iddi wawrio a chyn fod gwres poeth y dydd yn setlo i fewn. Mi roedd hi’n wâc fendigedig a hynod o brydferth. Cerddom ar hyd dop y ‘canyon’ yn edrych i lawr i gwm y Kings Creek dros 100m islaw. Gwelsom yr haul yn codi a cherdded drwy creigiau â ffurfiau gwahanol a diddorol. Roedd un man arbennig ble roedd cyfres o gerrig anferth wedi eu herydu gan y tywydd i edrych fel adfeilion dinas hynafol coll. Roedd yno hefyd amrywiaeth helaith o flodau a blanhigion yn tyfu o gwmpas nifer o byllau dwr. Mewn un pwll hyfryd a thawel, a elwir yn Gardd Eden gyda nifer o choed palmwydden o’i chwmpas, fe’r eithum i nofio am ychydig i ddianc o’r gwres – bum erioed mewn pwll mor dywyll a wnaeth codi ofn arnaf ryw ychydig wrth i mi drio chwilio allan pa mor ddwfn ydoedd.

Yn llawer rhy fuan death ein wâc a’n safari i ben gyda un taith hir olaf nôl i Alice Springs yn ein disgwyl. Roeddwn wedi mwynhau pob munud o’r profiad hynod ffantastig yma. Gwelsom dim un neidr na phry cop ar ein taith hir, bod yn goch neu’n ddu neu streips pinc a melyn. Ynta cawsom un cip olwg arnaf a phenderfynnu nad oeddwn yn werth y risg. Blinedig iawn roedd y ddau ohonom wrth gyrraedd nôl i’n hostel ond roedd y ddau ohonom yn teimlo’n ffodus iawn ein bod wedi cael y profiad o weld natur ar ei orau.

No comments: