Wednesday, 23 April 2008

Wncwl Alun

Pwy yw Wncwl Alun? Mae Wncwl Alun (WA) wedi byw yng Nghristchurch, Seland Newydd gyda Anti Ceri ers 1952. Dod o Gwmllinau mae yn wreiddiol ond rydym wedi maddau iddo am fod yn Gog oherwydd er iddo fyw yn Seland Newydd cyhyd mae pawb sy'n ei nabod yn gwybod mae Cymro yw a dim ond Cymraeg rydym yn siarad gyda'g ef. Mae ei Gymraeg mor rugl nawr a'r diwrnod gadawodd Gymru dros hanner canrif yn ôl ac mae'n braf gallu siarad Cymraeg gyda rhywun arall ar ôl bod yn trafaelu mor hir. Roedd WA yn gweithio i'r AA cyn ymfudo i Seland Newydd ac fe gymrodd y penderfyniad mawr i adael Cymru ar ôl dychwelyd adref am y trydydd gwaith mewn un diwrnod yn wlyb i'w drôns oherwydd glaw ofnadwy. Gwnaeth gais i ymuno â'r awyrlu yn Seland Newydd ac Awstralia (fe wasanaethodd yn yr Awyrlu Brydeinig yn ystod yr Ail Rhyfel Byd) a gan mae Seland Newydd (SN) oedd y cyntaf i cynnig swydd dyma nhw yn codi eu pac a mynd i ben pella'r byd. Cafodd WA hedfan allan i SN a chael aros yn y Raffles yn Singapore tra roedd rhaid in Anti Ceri gyda dau o'r bois hynaf, Geraint yn 4 oed ac Eifion yn ddeunaw mis, dilyn ar long a'r fordaith o 3 mis.

Tra yn aelod o'r awyrlu yn SN cafodd WA fynd i'r Antarctic yn 1957/58 fel rhan o'r tîm sefydlodd Scott's Base Camp a oedd yn ganolfan i'r Trans Antarctic Expedition arweiniwyd gan Sir Vivien Fuchs gyda Sir Edmund Hilary yn arwain y tîm cynorthwyol. Mae ganddo tipyn o hanes a lluniau o'r trip ond yr hyn dwi yn ei hoffi orau yw'r disgrifiad ohono sy'n ymddangos yn yr Unofficial Unit History ar ôl iddo orffen ei stint o 3 mis yn yr Antarctic:
Tate and Breese (WA) sailed on the USS Greenville Victory from McMurdo. They had both done a first class job particularly Breese who as a Welshman was a ball of fire with a very lively sense of humor. They were among 22 persons to return from Scott's Base.
Mae e'n ddisgrifiad perffaith ohono.

Yn ogystal a bod yn beiriannydd da mae'n hefyd yn 'dab hand' gyda tyfu llysiau a ffrwythau. Yn ei ardd fe ddowch ar draws tatw, pys, moron, india corn, winwns, afalau o bob math, orennau, mafon a holl bethau eraill eto. Ond y peth mae'n ei arbennigo fwyaf ynddo yw tomatos. Ar un adeg roedd ef ac Anti Ceri (AC) yn tyfu dros 1,800 o blanhigion tomatos mewn dau dy gwydr enfawr yn eu gardd cefn a rhagor eto yn y ty gwydr roeddent yn rhenti o'u cymydog drws nesaf. Maent siwr o wedi tyfu degau o filoedd (os nad cannoedd o filoedd) o domatos drwy gydol eu hoes. Ac wwww, mae'n nhw'n felys ac yn flasus.

Mae WA ac AC wedi trafaelu tipyn bach a dwi ddim jyst yn golygu trafaelu allan i SN. Maent wedi ymweld ag adref ar sawl achlysur ers gadael ac maent hefyd wedi trafaelu ogwmpas Ewrop, Rwsia, Awstralia heb anghofio yr Ariannin a Phatagonia. Ar eu trip i Batagonia, ddim mor hir a hynny cyn rhyfel Ynysoedd y Falklands, nid oeddent wedi gwneud eu gwaith cartref yn drylwyr iawn ac fe droeasant i fyny heb fawr dim o'r arian lleol a 'traveller cheques' nad oeddent yn medru eu newid mewn unrhyw fanc. Gyda'u ceiniogau olaf penderfynnon nhw fynd i flwch ffôn, edrych i fyny yn y llyfr ffôn am rif rhywun ag enw Cymraeg o dan Williams a jyst trio eu lwc i weld os gallent gysylltu a rhywun i'w helpu. Roedd eu lwc i fewn. Nid yn unig roeddent wedi cysylltu a rhywun cyfeillgar ond roedd mab y ddynes yma yn gweithio mewn banc ac fe ddiflannodd eu problemau ariannol.

Ar eu ymweliad nôl i Gymru yn 1994 y dwi'n cofio cwrdd a WA a AC am y tro cyntaf ac yna eto ar droad y ganrif newydd. Cawsom wahoddiad i fynd i aros a hwy ac mi'r oeddwn wastad wedi ffansio ymweld â SN ers i mamgu (chwaer AC) fynd allan atynt ar ddechrau'r 80au. Doedd dim holi dwywaith ac ym mis Mawrth 2003 yr aethom allan gyntaf a gwna i byth anghofio eu gweld yn eistedd yn y maes awyr yng Nghristchurch yn disgwyl amdanom, dau wyneb cyfeillgar a chyfarwydd i'n croesawi wedi taith o dros 32 awr yn hedfan hanner ffordd yng ngroes y byd. Cawsom groeso arbennig a chynnes ganddynt a gan Edryd (ei mab ieuaf) a'i deulu yn Wellingtona a hefyd gan SN yn gyffredinol fel rhaid oedd mynd nôl allan am ymweliad arall ac am dipyn fwy o amser y tro hyn. A dyma ni ar ddechrau ein trip o 5 mis, mae wedi cymryd bron i 5 mlynedd i ni ddod nôl ond rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn.

No comments: