Thursday, 7 August 2008

Ar Ein Ffordd / ON OUR WAY

Gweler isod am y fersiwn Saesneg / SEE BELOW FOR THE ENGLISH VERSION

Dyma ni'n dod

Nodyn bach i ddweud ein bod ar y ffordd bore 'ma. Rydym yn hedfan mewn awyren ambiwlans arbennig o Arequipa i Lima ac yna fyddwn yn hedfan o Lima i Amsterdam lle byddwn yn cymryd lle naw sedd yng nghefn yr awyren, gyda Nia ar 'stretcher' yn cael ei hebrwng gan ddoctor a nyrs. Ar ôl seibiant byr yn Amsterdam byddwn yn glanio yn Heathrow ychydig ar ôl 3yp. Ni wyddwn eto lle fydd pen y daith i Nia - nid yw'r mater wedi ei benderfynnu eto ond fe gadwn mewn cyswllt.

Diolch i bawb yn yr hostel am y gofal gorau a phob caredigrwydd dros ein cyfnod yma. Diolch hefyd am y llyfr hardd. Fe fyddwn yn ôl.

Here we come

A quick message to say that we will be on our way home this morning. We are flying in an air ambulance from Arequipa to Lima and then onto Amsterdam this evening. We will be taking up the rear nine seats in the plane and Nia will be on a stretcher accompanied by a doctor and a nurse. After a brief stop in Amsterdam we should land in Heathrow just after 3pm on Friday. As yet we are still not sure as to where Nia will end up after arriving home - this matter is yet to be decided but we'll keep in touch.

Many thanks to the hostel for the best of care and every kindness over the last 16 days. Thank you also for the beautiful book and the lovely message within. We'll be back.

No comments: