Wrth edrych nôl ar ein hamser ym Mherth dwi methu a chredu’r holl bethau cawsom eu gwneud a’u gweld - ond fe fuom yno am dros tair wythnos i gyd ac yn gloi dyma beth arall gwnaethom:
Ymweld ag Amgueddfa a Galeri Gorllwein Awstralia.
Ymweld â Bathdy Perth a chael gwylio aur yn cael ei doddi ac yna ei ail gastio i mewn i far. Fe ddysgom hefyd am hanes cloddio am aur yn y dalaith ac ar sut y’i darganfuwyd.
Euthom i Acwariwm Gorllewin Awstralia a chael gweld rhagor o ryfeddodau’r mor sy’n bodoli ogwmpas arfordir y dalaith.
Ymweld a thref Freemantle a’i marchnad a’i bragdy lleol Little Creatures.
Yn ystod ein cyfnod yma roedd Pencampwriaeth Tenis Agored Awstralia yn cael ei gynnal ac mi’r oedd yn cael ei ddarlledi ar y teledu dydd a nos (yn debyg i Wimbledon gartref) ac os nad oedd hynny’n ddigon roedd y criced i’w gael gyda’r gemau prawf rhwng Awstralia ac India ble roedd yna ddigon ddadlau yn mynd yn ei flaen rhwng y ddau dîm i’n diddori. Ar ben hyn i gyd roedd hi’n Ddiwrnod Awstralia ar Ionawr 26ain a felly roedd yna’r holl dân gwyllt yn goleuo’r awyr gyda’r hwyr ac roedd yn esgus (er nad oedd angen esgus arnom) i gael barbeciw arall.
Hoffwn estyn diolch mawr iawn, iawn i Gwen am bopeth ac am wneud ein ymweliad a Gorllewin Awstralia mor foddhaol.
Friday, 7 March 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment