Thursday, 1 November 2007

Wele Gwawriodd ...

Ie - mae'n gyntaf o Dachwedd ac mae hynny yn golygu fod Margaret Lewis yn dathlu ei phenblwydd yn 50 mlwydd ifanc heddiw. Penblwydd hapus i ti Mags, gobeithio y cei dy spwylo'n racs.

Mae'r bagiau yn barod ar bocs tocyn wedi'i baratoi ar gyfer siwrnau'r bws felly mae'n amser mynd i gwely cyn codi i ddechrau'r antur.

Mae Mam wedi bod wrthi yn cyfansoddi pennillion i ni - rydym yn disgwyl gweld Cadair yr Eisteddfod yn Nhalybont flwyddyn nesaf pan ddown adref - a cwshin bach pert arni siwr o fod.

I Nia a Marc

Pob hwyl a phob sbri
Ar eich taith dros y lli,
Byddwch saff ar eich shwrne
Wrth gario'r holl bwysau,
Meddyliwch amdanom
Nawr yn y man, ac mewn ymgom,
Ac ar ol gweld yr holl fyd
O'i led ac o'i hyd,
A ninnau ar y blog yn eich dilyn
Trowch am gartre nol, bron pen y flwyddyn.

Hwyl pawb - welwn ni chi yn Bangkok. Ta ta.

Well the day has finally dawned, the bags are packed and the sarnies for the bus journey from Swansea to Heathrow have been made. We will probably start tucking-in around 2 junctions down the M4.

Panic has been overcome by a strange sense of calm - the homeopathic diazapan that Tracey brought up earlier is obviously kicking in.

Bye all - Bangkok here we come.

Goodbye Little Columbus,
Goodbye, I'll see you one day,
Goodbye Little Columbus,
You're just travelling, travelling, travelling ...

Chris Rea

1 comment:

Stumpy said...

Hope the flight was good and not too long, did you spend your time doing the Western Mail crossword? Apparently there is a rave party in your old house this weekend - just seen it posted on the internet. Chris Rea - that's a name from the past, the old ones are good ones eh?