Buom ddiwrnod cyfan yn mynd ogwmpas hen ddinas Sukhothai ar gefn feic yn gweld fwy o demlau a bwdas na sydd o Gapeli yng Nghymru. Mi'r oedd yr hen ddinas wedi ei leoli yng nghanol y wlad gyda gerddi hyfryd ogwmpas y temlau a diolch byth mi'r oedd yn ddiwrnod gweddol gymylog oherwydd doedd dim lloches o'r haul heblaw ni. Gyda'r hwyr cawsom y pryd bwyd orau hyd yma - cyri Masaman mewn bwyty bach wrth ymyl ein hostel. Rwy'n credu fod yna gystadleuaeth brwd rhwng y rhes o fwytau sydd wedi eu leoli un ar bwys y llall oherwydd pan y byddwn ni'n cerdded heibio pob un byddai'r staff yn galw allan "Sawadee Kup" i'n cyfarch a'n croesawi i fewn i'w bwyty nhw.
Y diwrnod canlynol roeddem ar fws eto yn teithio i fyny i Chiang Mai. Prif tref gogledd Thailand. Cawsom ein casglu gan staff yr hostel o'r orsaf fws a'n perswadwyd ni i fynychu trec dau ddiwrnod un noswaith yn y jwngwl ar y diwrnod canlynol yn hytrach na diwrnod yn ddiweddarach a felly rhoi'r gorau i ddiwrnod o orffwys roeddem wedi bwriadu cael. Ond fe drodd popeth allan yn dda iawn a cawsom llawer iawn o hwyl a sbort. Roedd yna 11 ohonom yn y parti trecio gyda dau grwt ifanc lleol yn ein harwain, sef Pwn a Jo-Jo - dau llawn hwyl a oedd yn ymuno gyda sbort y grwp. Gan gynnwys Nia a finne, roedd yna gwpwl o Ffrainc, Jimmy a Auda, Ed o Kent, Danny a Eddie o Lincoln ac yna grwp o bedwar o Swydd Rhydychen, Gibbo, Katie, James (Messa) a Scott. Tynnodd y grwp gyda'u gilydd yn syth ac roedd llawer o hwyl a sbri dros y ddau ddiwrnod buom gyda'n gilydd.
Yn gyntaf aethom i reido Eliffantod. Dyma'r tro cyntaf i mi gwrdd ar creaduriaid hyfryd - rhai dwi wedi eu edmygu ers amser maith. Mi'r oeddent yn greaduriaid bywiog iawn gyda llawer o bersenoliaeth ac yn ddigon hapus i ni eu cyffwrth a fwy na hapus in ni ei bwydio gyda bananas a 'sugar cane'. Roedd ei croen i gyffwrdd yn llawer fwy llyfn a meddal na'r disgwyl. Cafodd Nia a finne fynd ar yr eliffant mwya - do fe wnaeth Nia gytuno rhoi go arni! Bwjo oedd ei enw a hwn oedd yr unig eliffant gwrwaidd ac mi'r oedd ei faint yn enfawr wrth ei gymharu a gweddill yr eliffantod. Cawsom eistedd ar sedd i ddau berson wedi ei leoli ar dop cefn yr eliffant gyda gyrrwr bach yn eistedd jyst tu ol i glustiau'r eliffant. Roedd y gyrrwr yn fachan hapus iawn a gwen fawr ar ei wyneb yn canu rownd abowt. Beth oedd yn cadw Bwjo'n hapus oedd estyn ei drwnc dros ei ben ef a'r gyrrwr i'n cyfeiriad ni ble bydden ni wedyn yn ei fwydio gyda bananas. Ac wrth i ni drafaelu drwy'r jwngwl byddai gorsaf bob yn nawr ac yn y man lle gallem brynnu rhagor o fananas er mwyn cadw Bwjo'n hapus. Wrth deithio ar lawr gwastad doedd dim prblem, ond pan roedd Bwjo yn dringo ac yn enwedig wrth gostwng rhaid oedd dal ymlaen yn sownd! Wedi ychydig fe neidiodd ein gyrrwr oddi ar Bwjo ac yna fy nghroesawi i i symud lawr o'm sedd er mwyn lleoli fy hun fel gyrrwr Bwjo - er nid oedd gennym unrhyw rheolaeth drosto ac mi'r oedd Bwjo yn gwneud beth bynnag roedd yn mynni - ond fe fuhafiodd yn iawn ar y cyfan ac mi'r oedd yn brofiad gwych.
Wedi cinio fe ddechreuodd ein trec yn y jwngwl, ryw pedair awr o gerdded lan a lawr mewn jwngwl hyfryd yn aml yn cerdded wrth ymyl afon neu nant gan gymryd holl luniau. Cawsom aros wrth ymyl rhaeadr am ychydig ble newidom fewn i'n dillad nofio am dip bach yn y dwr i'n cwlo ni lawr. Rhagor o gerdded wedyn ac erbyn 5 o'r gloch roedd pawb bron wedi blino'n lan yn enwedig gan fod yr awr olaf yn fwy o ddringo na cherdded. Yna gwelsom ar ddraws rhai caeau o reis cwpwl o hyts o bren ac roeddem yn gobeithio mae hyna oedd terfyn ein taith am y diwrnod - a diolch byth mi oedd. Gwell byth oedd gweld focs oer llawn ia a chwrw oer oedd yn ein disgwyl ac aeth pawb yn syth amdano. Cawsom "gawod" fach gloi - yn gloi nid o rhan dewis ond gan mai'r cyfan ydoedd oedd tap dwr oer (iawn) wedi ei leoli reit nesa i'r ty bach sgwat mewn sied bren. Ond yn fuan iawn roedd pawb wedi anghofio eu blinder ac roedd gwenau ar ein gwynebau fel roedd tin ar ol tin o cwrw oer Chang yn llifo i lawr ein gyddgau wrth rhannu storiau o jocs a thynnu ambell goes. Mae'n tywyllu tua 6yh ac fe aeth bron popeth yn ddu bitch o'n cwmpas - peth da oedd i Nia a finne dod a'n 'head torches', rhywbeth roedd pawb yn falch ohono yn enwedig pan roedd angen defnyddio'r ty bach.
Mae'n troi allan roedden ni i gyd i aros mewn 'communal hut' fawr wrth ymyl ffermdy teulu bach (gwr, gwraig a bachgen bach ryw 3-4 oed). Roedd yr adeiladau i gyd wedi eu wneud o bren ac yn ein hyt fawr ni roedd nifer o flancedi a netiau moscito wedi ei drefnu'n daclus ar ei hyd. Wrth ystyried ein lleoliad yng nghanol unman gyda chyfleuterau syml reit i ddweud y gorau cawsom wledd i fwyta y noswaith hynny. Paratowyd digonedd o fwyd - beansprouts a noodles, sweet a sour a'r gorau i gyd cyri coch Thai. Llanwodd pawb ei boliau a chadw ymlaen i yfed y Chang. Maes o law, credai'r 'hosts' fod angen fwy o fwyd arnom a daethant allan a llygoden ffyrnig roeddent newydd ei dal mewn trap. Rhoddwyd y lygoden ar y tan a'i farbeciwio gyda rhai o'n grwp yn tynnu gwynebau ac eraill yn mynu rhoi cynnig ar ei flasu. Cymerias ychydig o'r gynffon a oedd yn blasu fel 'pork scratchings' a ychydig o'r goes oedd yn blasu yn union fel ... ie, cyw iar!
Wedi'r cwrw orffen chwiliasom ein gwelau a cael ein deffro'n llawer rhy gynnar gan nid jyst un ond dau geiliog wedi eu lleoli reit tu allan i'r drws a hynny cyn iddi oleuo'n iawn. Wedi brecwast bant a ni eto am rhagor o gerdded trwy jwngwl, gweld pentref y pobl lleol, rhagor o nofio ger rhaeadr arall a hyd yn oed gem fach o beldroed ar gae o bridd coch. Yna, fel roeddwn bron a llwgi ar ol cerdded drwy cae ar ol cae o goed bananas cyrraeddom diwedd ein taith gerdded ble roedd cinio o Pad Tai yn ein disgwyl. Ond nid oedd yr hwyl drosodd - mynd wedyn ar rafft o fambw. Cafodd Nia, Ed a finne y capten mwya dwl i'n tywys lawr yr afon - 'Captain Crazy' fel yr enwebo ni ef ond eto cawsom llawer o hwyl. Roedd y capen yn benderfynol o'n twli ni oddi ar y rafft i'r afon. Nid byddai hynny wedi gwneud llawer o wahanieth gan yr oeddwn yn cael ein gwlychu sops wrth jyst eistedd ar yr rafft. Mewn ychydig rhoddwyd i mi y polyn roedd yn cael ei ddefnyddio i lywio'r rafft ac yna fe aeth popeth yn gyffroes iawn wrth i ni ond osgoi'r holl wahanol peryglon a hyd yn oed ddim ar ambell i achlysur! Yn rhy fuan ddaeth yr hwyl i ben ac er i'r capten methu yn ei ymdrechio i'n cael i'r dwr roedden ni gyd yn wlyb on top i'n gwaelod gyda Ed druan a rhwyg fawr yn ei siorts a phawb yn gwneud sbort ar ei ben ... a'i ben-ol!
Nol i'r hostel wedyn am gawod poeth hir a hyfryd i ddod dros anturiaethau'r ddau ddiwrnod diwethaf. Allan wedyn am ddiod gyda'r rhai o'n grwp oedd yn aros yn yr un hostel. Cawsom dipyn o grac gyda Gibbo, Katie, James a Scott dros y cwpwl o ddyddiau canlynol - yn gwario amser yng nghwni'n gilydd wrth ymyl y pwll nofio a hefyd pan aethom i gyd i weld bocsio Thai. Maent erbyn hyn wedi mynd ymlaen i Loas ac maent yn gwneud yr union yr un taith yr ydym yn golgu cychwyn arni fory. Efallai y bwddwn yn dal lan a nhw hwyr neu hwyrach, roeddwn yn joio tynnu coesau'r Saeson.
Monday, 19 November 2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment