Ein hantur cyntaf o fewn Seland Newydd oedd i ymweld â ochr Orllewinol Ynys y De. Er nad yw'n ynys enfawr ac yn eithaf cul, y mae wedi ei rhannu i lawr y canol gan rhes hir o fynyddoedd gogoneddus y Southern Alps. Canlyniad hyn yw byd tra gwahanol i'r hyn roeddem wedi ei adael ar yr ochr Ddwyreiniol. Yn y Gorllewin mae'r wlad wedi ei dal rhwng y môr tymhestlog ar yr un ochr a mynyddoedd anferth gwynion ar y llall. Mae'r mynyddoedd yn ei gwneud yn anodd i gyrraedd yma sy'n esbonio'r boblogaeth bychan iawn. Mae'r bobl eu hun yn 'laid back' ac mae'n rhwydd iawn chwilio unigoledd yma.
Dechreuom ein taith wrth gymryd y trên, y Tranz-Alpine, o Christchurch i Greymouth. Ystyriwyd y siwrne yma, rhwng y Môr Tawel a'r Môr Tasman, yn un o'r teithiau trên gorau'r byd. Mae'r trên yn teithio drwy cyfres o dirluniau arbennig, drwy chymoedd a choedwigoedd hyfryd, dros 4 traphont a thrwy 19 o dwnelau. Mae un twnnel, ger Arthur's Pass, yn 8.5km o hyd. Gwariais rhan fwyaf o'r daith ar y cerbyd agored yn cymryd popeth i fewn ac yn tynnu lluniau o fri ond gan yr oedd hi braidd yn oer yno roedd Nia mewn cerbyd arall, yn glud mewn sedd cyfforddus.
Gwariom un noswaith yng Ngreymouth, prif dref yr ochr Orllewinol, cyn symud ymlaen i dref fechan Hokitika. Hoki, yn fyr, yw prif ganolfan crefftiau jade yn SN, yn bennaf gan mae o'r ardal yma caiff rhan fwyaf o'r garreg werdd ei chloddio. Mae yno nifer fawr o gelfyddwyr yn byw yma ac yn gwneud bywoliaeth wrth gerflunio jade ac mae mwyafrif o siopau'r dref yn gwerthu'r garreg mewn un ffurf neu arall. Ond fy hoff man i o'r dref oedd y traeth. Pan gwelais am y tro cyntaf credaf fod llong wedi'i chwalu ger y glannau yn ddiweddar, roedd yr olygfa fel un o longddrylliad. Roedd yna lu o 'driftwood' ar wasgar ar hyd y traeth melyn hir gyda nifer fawr o gerfluniau wedi ei creu allan ohonynt gan ymwelwyr yno. Tro ar ôl tro byddai'r ddau ohonom yn dychwelyd i'r traeth i gymryd i fewn yr awyrgylch arbennig, i drio creu ambell i gerflun ein hunain, i fwynhau picnic ac i wylio'r haul yn machlud.
Pentref bach Franz Josef oedd ein galwad nesaf. Mae'r pentref ond yn bod oherwydd y rhewlif enwog gerllaw a dyna'r union rheswm dros ein hymweliad. Mae'r rhewlif dros 11km o hyd ar hyn o bryd, mae'n estyn ac yn cilio yn gyson, ac mae ynghyd â rhewlif Fox (sydd ddim yn bell o Franz Josef) ac un rhewlif arall sydd yn yr Ariannin yn unigryw gan eu bod yn disgyn i fewn i 'rainforest'. Fel ymarfer ar gyfer ein cynllun i wario diwrnod yn cerdded ar y rhewlif aethom i gerdded un o'r nifer traciau ogwmpas FJ. Cerddom trac Callary-Waiko a oedd yn dilyn yr afon Waiko i fyny at y rhewlif, drwy coedwig ('bush') hyfryd gyda amrywiaeth helaeth o dyfiant gan gynnwys holl fathau o redyn, yn goed ac yn llwyni, a hefyd un o'n ffefrynnau sef y 'cabbage tree'. Cawsom gyfle i dynnu lluniau wrth ymyl Peter's Pool gyda'r rhewlif a'r cwm yn cael ei adlewyrchu'n glir arno.
Ar y diwrnod mawr, diwrnod yn cerdded ar y rhewlif, rhaid oedd cychwyn yn gynnar. I lawr a ni erbyn 8 o'r gloch i ganolfan y trefnwyr er mwyn i ni cael ein citio allan gyda chôt law a throwsis dal dwr, hatiau, menig a sannau heb anghofio'r sgidiau trwm a'r 'talonz', sef set o sbeiciau sy'n ffitio o dan ein sgidiau i'n galluogi ni gerdded ar y rhew. A hefyd, rhaid oedd arwyddo ymwrthodiad (disclaimer) yn cadarnhau mae ein dewis ni oedd i fynd ar y rhewlif ac nad oeddem yn dal y cwmni yn gyfrifol am ddim. Mynd ar fws i fyny'r maes parcio ac yna awr o gerdded ar hyd yr afon Waiko, yn trampo drwy goedwig ac i fyny ac i lawr amryw o glogfeini mawr gan ddefnyddio ysgolion a rhaffau cyn cyrraedd o'r diwedd waelod y rhewlif.
Roedd bod wrth droed rhewlif yn deimlad syfrdanol. Dyma un o gewri natur sy'n gyfrifol am greu rhannau helaeth o dirwedd y byd. Nid 'pristine ice' ydoedd fel yr oeddwn yn ei ddisgwyl gan fod gymaint o farian a sgri drosto. Yn y canol ar flaen y rhewlif roedd ogof fawr ble roedd yr afon Waiko yn tarddu. Cyn cychwyn ein antur ar y rhew rhaid oedd yn gyntaf cael gwers fach ar sut i wisgo'r 'talonz' ar ein sgidiau ac ar sut i gerdded lan a lawr ar y rhew. Ac yna bant a ni. Yn ofalus i ddechrau er mwyn cyfarwyddo gyda'r dechneg gywir o fynd ati ond yn ddigon cloi roeddwn yn teimlo'n hyderus wrth dramwyo'r rhew. Araf bach roedd pawb (roeddem mewn grwp o tua dwsin) yn camu ar hyd y rhew ond doedd hynna ddim yn fy mhoeni. Roedd yn rhoi cyfle i mi gymryd i fewn yr amgylchedd rhyfeddol ar awyrgylch arbennig ... heb anghofio tynnu llun neu ddau. Cyn hir roeddem uwchben y rhew budr ac ar y iâ glan a chlir a glas ei liw. Ie, roedd yna wawr las golau hyfryd i'r rhew gan ei fod wedi'i wasgu mor ddwys. Byddem yn cerdded i fyny ac i lawr agennau (crevices) enfawr a serth a thrwy ogofau o rhew. Roedd y cwm islaw yn mynd yn llai a llai y bellach fyny roeddem yn mynd ac roedd yr olygfa yn arbennig - roeddwn yn cael amser wrth fy modd. Buom wrthi am tua 6 awr ar yr iâ ei hun cyn yn anffodus gorfod dod oddi arno a cerdded y siwrne hir a blinedig yn ôl i'n bws. Roedd yn brofiad arbennig, un wna i byth ei anghofio.
Tuesday, 3 June 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment