Sunday, 11 May 2008

Cyrraedd Christchurch

Roedd Wncwl Alun (WA) yn disgwyl amdanom yn y maes awyr pan cyrraeddom Christchurch (Ch.Ch.) ond am rhyw reswm, ynta gan mae fi oedd yn cario'r bagiau i gyd, Nia welodd WA yn gyntaf ac wrth i'r ddau groesawi eu gilydd mae WA yn holi "Ble mae'r bachgen? Ydyn nhw wedi ei ddal e o'r diwedd? Mae gyda fe olwg euog fel drygi". A dyna fel oedd hi tra yn ei gwmni, tynnu coes drwy'r amser a chael llawer o sbort. Fel y ffordd gosodwyd y bwrdd am ein brecwast cyntaf yno. Roedd popeth ar y bwrdd yn barod i ni - bowlenni, platiau, cytlyri, bocsys sirial, bara, menyn, jam, tomatos ... a dwy potel o Speights, sef cwrw enwog Seland Newydd.

Er fod WA yn 85 mlwydd oed, doedd dim amser i fod yn segur ac roedd ef o hyd yn mynd a ni o le i le. Bod mynd a ni am ddiod yn un o nifer o Working Men's Clubs, mynd a ni am dro i Akaroa am y pysgod a sglods gorau'r byd neu mynd a ni i nofio yn y pwll adeiladwyd ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn 1974. Hefyd roedd yn mynd a ni i gwrdd â rhai o'i ffrindiau fel Alistair a Megan a'u meibion ifanc Charlie a Sam ar eu tyddyn bach, Hayden a Mandy a'u meibion William a Timothy yn eu gwinllan neu mynd a ni i swper gyda Henry a Trudy. Ond y cwpwl cawsom ddod i nabod orau yn ystod ein cyfnod yn Ch.Ch. oedd John a Joy, neu Y Pipes fel roeddent yn cael eu galw. Naill a'i bydden nhw yn dod draw am swper ac yna am gêm o gardiau neu bydden ni yn mynd atynt hwy. Yn aml byddai'n hwyr erbyn i ni orffen chwarae gêm o Joy's Rules a byddai John wedi pendwmpian a cwympo i gysgu sawl gwaith yn ystod y noswaith ond bydden ni wedi mwynhau.

Ar y nos Wener ar ôl cyrraedd Ch.Ch. fe'r aethom i'n gêm gyntaf o rygbi Super 14. Roedd tymor newydd yn dechrau ac roedd y tîm lleol, y Canterbury Crusaders, y tîm gorau wrth gwrs sy'n cynnwys nifer o sêr y byd rygbi fel Dan Carter, Richie McCaw, Leon MacDonald, Andy Williams a Brad Thorn, yn chwarae tîm o Awstralia, yr ACT Brumbies. Er mae'r Brumbies yw'r tîm mwyaf llwyddianus Awstralia dros y blynyddoedd diwethaf cafodd y Crusaders fuddigoliaeth weddol rhwydd a'r dechreuad gorau i'r tymor. Cawsom fonws bach y noswaith hynny. Wrth i ni giwio i fyny i brynnu tocynnau ar gyfer y gêm cefais dap bach ar fy ysgwydd a rhywun yn holi os roeddwn eisiau dau docyn ar gyfer y gêm. Yn edrych bach yn syn dywedais ein bod a dyma'r boi yn rhoi dau docyn yn fy llaw. Dywedais diolch a bant ag ef yn gadael Nia a finne yn edrych yn ddwl ar ein giilydd yn methu a chredu beth oedd wedi digwydd. Troeodd y ddau docyn allan i fod yn dau sedd reit ar lein hanner ffordd, yn y stand gorau o dan dô a hithau yn noswaith wlyb hefyd. Noson wych.

5 comments:

Mags said...

Oh Ni odw i yn rhy hwyr?? Mae hi yn 12 May fan hyn ond dim yn swir pa ddiwrnod i'w hi gyda chi. Very sorry os ydw i rhi hwyr. Penblwydd hapus iawn gobeitho geu di, ne ges di ddiwrnod hyfryd. Gobeitho bod na bach o siopa wedi bod! Cariad mawr oddiwrth Phill a fi lots o kisses oddiwrth Rosie Jess Sadie Cassie Pero y pest a mae Frostie a Cookie yn cani crwndi i ti. Cofio ni ato pawb. Glywes bod chi wedi bod yn siarad a Mary Cooke, cofio fi ati os welwch i hi.

Mwsh said...

Shwmai brawd mawr a Ni??? Gobitho bo' chi'ch day yn iawn -'ddo bo' wedi clywed rhywbeth am very expensive dentist bill?!! Gobitho ges di penblwydd lyfli Ni - oen ni'n meddwl amdano ti. Well 'da chi ar eich permenent hols yn NZ a mam a dad yn Florida, living it up by the pool 'da'r chwar arall a Sara, mae'n debyg bod hi lawr i fi i hedfan y Richards flag draw fan hyn! Ma gwybod bo chi gyd yn mwynhau, siwr o fod gyda traed lan pan fi'n gorfod codi i fynd i gwaith bob bore yn bach yn annoying! Never mind, bydda i'n chwerthin ar chi gyd blwyddyn nesa' pan fydda i'n mynd off - not that I'm bitter or anything! Dim news fan hyn really. I still want to throttle the fat housemate, fi newydd ddod nol o Llundain gyda gwaith a bydda i yn dechre'r summer tour cyn hir, lan i Llangollen, Royal Welsh, Pembroke a Edinbrugh, gyda fitto dau hen do Suzy, priodas Suzy, spray tan a french manicure i priodas Suz mewn rhywle in between 'fyd! Oh, da fi newyddion drwg i ti Marc, ma defniately well 'da Sara Anti Kim na Uncle Marc - ddedodd hi wrhto fi ar y foon! Well, gwell mynd i wneud bach o waith. Cadwch mlan i gael hwyl, cariad mawr Kim xxxxxx

Mwsh said...
This comment has been removed by the author.
Anonymous said...

Hello, you site is very funny he told me to cheer up .. Merry Christmas.

Anonymous said...

Частичный Ремонтик квартир в запорожье.http://remont-kvartirki.pp.ua http://vash-remont.ucoz.ua .